Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arafu traffig - Stryd Fawr Bagillt

Published: 10/07/2014

Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynigion i arafu traffig ar hyd Stryd Fawr Bagillt ddydd Mercher 16 Gorffennaf yng Nghanolfan Gymuned Bagillt. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 4pm a 7pm a bydd yn gyfle i’r bobl leol ac eraill roi eu barn am y cynlluniau ar gyfer y cynllun arfaethedig i arafu traffig. Penderfynodd Cyngor Sir y Fflint bod angen cymryd camau o’r fath gan fod cynifer o gerddwyr wedi’u hanafu mewn damweiniau ar y Stryd Fawr. Mae’r cynllun yn cydymffurfio â pholisi arafu traffig yr Awdurdod a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Bydd swyddogion o’r Cyngor Sir yn bresennol yn yr arddangosfa i esbonio’r hyn a fydd yn digwydd.  “Caiff canlyniadau’r ymgynghoriad eu hystyried a’u defnyddio wrth ddatblygu a chynllunio unrhyw gynllun arfaethedig a gaiff ei gyflwyno. “Rwy’n annog pobl leol i ddod draw i’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau ein bod yn cael amrywiaeth o safbwyntiau.”