Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

Published: 22/11/2017

Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol Cyngor Sir y Fflint wneud sylw ar gynnydd darpariaeth yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf. Ar hyn o bryd maer Gwasanaeth Llyfrgell yn gweithredu model y mae’r Cyngor or farn ei fod yn bodloni anghenion cymunedol. Caiff hyn ei gydnabod gyda 99% o oedolion yn sgorio’r gwasanaeth fel bod yn dda neu’n ddau iawn (yr ail sgôr uchaf yng Nghymru) a gyda plant yn sgorio’r gwasanaeth yn 10 allan o 10 (y sgôr uchaf yng Nghymru). Fodd bynnag os yw gostyngiadau pellach yn cael eu gwneud oherwydd anghenion caledi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yna ni fydd y gwasanaeth yn gallu diwallu anghenion cymunedol a bydd perfformiad yn erbyn y safonau hyn yn dirywio’n sylweddol. Mae cadernid y gwasanaeth mewn peryg a chaiff hyn ei arddangos, oherwydd er bod y gwasanaeth yn cyflawni perfformiad da gyda’i gyllideb gyfredol yn erbyn hawliau craidd a dangosyddion safon gyda thargedau, mae perfformiad ar draws meysydd eraill y fframwaith yn gymysg. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Rydw i’n falch bod y gwasanaeth llyfrgell wedi gwneud camau sylweddol ymlaen eleni, gyda gwelliannau wedi eu cynllunio yn erbyn y safonau o ran oriau agor a mynediad at fand eang. “Mae’n wych gweld bod y gwasanaeth yn cadw ei lefelau boddhad cwsmer uchel, ac yn gyntaf yng Nghymru o ran boddhad plant ac yn ail yng Nghymru o ran boddhad oedolion. Mae hyn yn ategu’r ffaith fod ein model llyfrgelloedd yn Sir y Fflint yn iawn, ac rydym yn gwybod bod y model hwn yn gynaliadwy yn erbyn gostyngiadau pellach sydd wedi eu cynllunio yn y gyllideb. “Fodd bynnag byddai unrhyw effeithiau cyllidol oherwydd dull y DU o ddelio â chaledi ariannol, o bosib yn effeithio cadernid y gwasanaeth cymunedol pwysig hwn.