Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Campws Dysgu Treffynnon yn fuddugol unwaith eto

Published: 24/11/2017

Mae Campws Dysgu o’r radd flaenaf yn Nhreffynnon wedi ennill gwobr genedlaethol i Gyngor Sir y Fflint a’i gontractwr, Galliford Try. Enillodd yr ysgol newydd y Wobr Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Cenedlaethol diweddar Adeiladu Arbenigrwydd a’u cynhaliwyd yng Ngwestyr London Marriot ar Sgwâr Grosvenor. Roedd hyn yn dilyn ennill y Wobr Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd Cymru fis Gorffennaf, yn rhannol oherwydd y ffaith y cafodd dros 50,000 tunnell o bridd ei hailddefnyddio ar gyfer tirweddu, syn cynrychioli 99.9% o ailddefnyddio pridd ar y safle. Mae’r safle yn ailgylchu dwr glaw hefyd i dynnu dwr y toiledau ac mae 250 o baneli solar ar y to i gynhyrchu trydan. Dywedodd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “O’r cychwyn cyntaf, roedd Galliford Try yn sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei fewnosod ymhob agwedd o’r prosiect. Gadawodd y broses o ddymchwel yr hen ysgol uwchradd swm sylweddol o wastraff, ond cafodd 90 y cant or gwastraff ei hailgylchu. Nid dyna oedd diwedd y gân, cyflwynodd y prosiect 55 o gyfleoedd cyflogaeth ac 19 prentisiaeth yn ogystal â sawl gweithgaredd addysgol a chymunedol.” Dywedodd Ian Jubb, Rheolwr Gyfarwyddwr ‘Building North and Scotland’: Mae’r tîm yn Nhreffynnon yn haeddu dipyn o glod am brosiect sydd wedi bod yn batrwm i’w efelychu. Mae’r wobr ychwanegol hon yn dangos bod eu cyflawniad wir yn arbennig ac rydym yn gobeithio bydd y gwersi rydym wedi eu dysgu yn cael eu defnyddio mewn meysydd eraill, gyda chynaliadwyedd wrth wraidd beth rydym yn gwneud. Mae seremoni wobrwyo Adeiladu Arbenigrwydd yn ddathliad cenedlaethol gyda 108 o enillwyr rhanbarthol, fel Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru fis Gorffennaf, i gyd yn dod at ei gilydd i arddangos arfer orau a gwobrwyo cyflawniad ar draws sector adeiladwaith y Deyrnas Unedig. Enillwyr y gwobrau hyn yw gorau’r goreuon, mae’r broses Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd gyfan yn cynnwys dros 500 o sefydliadau o’r holl gadwyn gyflenwi - y sector cyhoeddus a phreifat; BBaCh micro a mawr; contractwyr, dylunwyr, cynghorwyr proffesiynol, cleientiaid, cyflenwyr - unrhyw un syn rhan o deulu estynedig adeiladwaith. Dywedodd Milica Kitson, Prif Weithredwr Ynni Cymunedol Cymru: “Roedd hon yn noson arbennig i Gymru ac mae’n cadarnhau ein bod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer adeiladwaith ac yn esiampl i unrhyw un syn mabwysiadu arferion gwaith cydweithrediadol. Mae’n dystiolaeth o ymrwymiad y timau sy’n gweithio oddi mewn, ond mae’n mynd llawer pellach na hynny. Mae Cymru yn gwneud mwy na’r disgwyl yn rheolaidd. Maen arwydd o gadernid ac awydd y sector adeiladu yng Nghymru i barhau i wella. Llongyfarchiadau i’n henillwyr o Gymru!”