Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Teithio Cymunedol yn Parhau i Ehangu

Published: 04/12/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Cymuned Treuddyn, Llanfynydd, Coed-Llai a Phontblyddyn yn ogystal â Brychdyn a Bretton i ddatblygu gwasanaeth teithio cymunedol newydd cynaliadwy ar gyfer yr ardal. Dechreuodd y gwasanaeth Bws Tacsi ar 28 Tachwedd ac mae’n gweithredu gyda llwybr ac amserlen sefydlog sy’n galluogi trigolion o’r ardal i gael mynediad a chysylltu â gwasanaethau allweddol yng Nghanol Tref Yr Wyddgrug. Y cynllun hwn yw’r diweddaraf yn y fenter Teithio Cymunedol a ddatblygwyd gyda Chynghorau Cymuned a Thref yn Higher Kinnerton, Northop Hall, Cei Connah a Bwcle. Mae’r gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth “ffonio a theithio” ar gyfer pobl sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn yr ardal. Bydd y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynd i apwyntiadau iechyd/meddygol. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae mynediad i wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl ddiamddiffyn mewn cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan tror cymunedau yw hi i ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio’r gwasanaeth lle bynnag y bo modd i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i’r dyfodol. Mae Cynlluniau Cludiant Cymunedol o’r fath yn hanfodol ac yn dod yn angen brys oherwydd yr hinsawdd economaidd o galedi parhaus.” Mae paratoadau i ddatblygu cynllun cludiant cymunedol tebyg yn Nhreffynnon a’r cyffiniau eisoes ar waith. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau, ewch i: http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Community-Transport-in-Flin tshire.aspx neu ffoniwch 01352 701234. Cyngor Sir y Fflint yn lansio ei gludiant cymunedol diweddaraf yn Pontybodkin. Yn y llun: Jess Pritchard o’r Gwasanaeth Strydwedd ynghyd â gyrrwr y bws, Jeff Price, y Cynghorydd David Hughes, y Cynghorydd Carolyn Thomas, y Cynghorydd Ray Hughes a pherchennog y bws, Mark Coates.