Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Llwyddiannau Enillwyr Gwobrau Dug Caeredin

Published: 04/12/2017

Yn ddiweddar cyflwynwyd Gwobrau Dug Caeredin i 200 o bobl ifanc o bob rhan o Sir y Fflint mewn seremoni yng Ngwesty’r Springfield ger Treffynnon. Sefydlwyd y Wobr gan Ddug Caeredin ym 1956 ac erbyn hyn hwn yw’r cynllun gwobrwyo cyflawniad pobl ifanc mwyaf enwog yn y byd. Mae’n cynnig rhaglen wirfoddol, heb fod yn gystadleuol o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc rhwng 14-24 oed ac mae tair lefel - efydd, arian ac aur. Mae pedair adran i bob gwobr - gwirfoddoli, sgiliau, corfforol ac alldaith - gall gymryd 6 mis neu fwy i gwblhaur wobr efydd ac o leiaf 18 mis i gwblhaur wobr aur. Maen rhaid ir bobl ifanc sydd wedi cyrraedd lefel y wobr aur hefyd ymgymryd â gweithgaredd breswyl. Cyflwynydd y noson oedd Gary Williams, Swyddog Datblygu Gwobr Dug Caeredin Cyngor Sir y Flint, a chyflwynwyd y tystysgrifau gan Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Interim CSFf; Diane Aplin, Cyfarwyddwr WeMindTheGap ac Ann Roberts Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig Cyngor Sir y Fflint. Cafwyd adloniant gan Rebecca Owen a Charlotte Roberts o Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn. Llywyddion y noson oedd Amelia James o Ysgol Maes Garmon a Grace Thomas o Ysgol Uwchradd Cei Connah. Meddai Claire Homard: “Rydw i wrth fy modd cael bod yma heno i ymuno yn y dathliadau ac i helpu i gyflwyno’r gwobrau hyn. Mae’n galonogol dros ben gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y cynllun gwerth chweil hwn gan gyfoethogi eu bywydau yn ogystal â gwella eu cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol . Da iawn i chi i gyd!