Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lanterni Awyr

Published: 14/12/2017

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried gwahardd lanterni awyr rhag cael eu gollwng o dir sy’n eiddo i’r Cyngor yn ei gyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. Mae pryder cynyddol gan ystod eang o fudd-ddeiliaid am effaith posibl y lanterni hyn a balwnau heliwm ar dda byw ar amgylchedd. Mae pryderon penodol yn cynnwys y peryglon i les anifeiliaid drwy lyncu’r gweddillion, sbwriel yn y wlad, yn y môr ac ar yr arfordir, peryglon i awyrennau a’r effeithiau ar wasanaethau achub arfordirol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Argymhellir bod y Cyngor yn cyflwyno gwaharddiad ar ollwng lanterni awyr o dir a reolir ac sy’n eiddo i’r Cyngor. Unwaith y caiff ei gytuno, byddwn yn sicrhau bod y gwaharddiad hwn yn cael ei gyfleu’n eang er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol or peryglon syn gysylltiedig â lanterni awyr.