Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Casgliadau gwastraff gardd

Published: 14/12/2017

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r polisi codi tâl am wastraff gardd yn ei gyfarfod 19 Rhagfyr. Mae perfformiad ailgylchu Sir y Fflint yn un o’r gorau yng Nghymru, ond nid ywr gwasanaeth yn unol â glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer gwastraff, sy’n argymell bod Awdurdodau Lleol yn codi tâl ar breswylwyr am ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd (nad ydyw’n wasanaeth statudol), a bod y cyllid hwn yna’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwasanaeth ailgylchu cyffredinol. O ystyried y pwysau ariannol ar y Cyngor o ganlyniad i anghenion cynyddol y gymuned a llai o arian grant gan Lywodraeth Cymru, mae bellach yn hanfodol cyflwyno tâl am wasanaeth gwastraff gardd yn Sir y Fflint. Mae hyn eisoes wedii gyflwyno gan nifer o Gynghorau ar draws Cymru a Lloegr. Bydd y gwasanaeth codi tâl newydd yn parhau i gael ei roi o 1 Mawrth tan 30 Tachwedd, oherwydd dyma pryd y ceir y galw uchaf am y gwasanaeth, ac nid yw’r mwyafrif o bobl yn gofyn am y gwasanaeth dros y gaeaf. I’r preswylwyr hynny nad ydynt am gyfranogi yn y gwasanaeth newydd, mae modd mynd â gwastraff gardd o hyd i un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sydd wedi’u lleoli’n strategol ar draws y Sir, am ddim. Mae Sir y Fflint yn parhau i gynnig darpariaeth Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref helaeth, yn dilyn adolygiad or gwasanaeth yn 2016. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Er nad yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd, o ystyried y drefn o galedi parhaol gan Lywodraeth y DU, mae’n un o’r rhai hawsaf gan fod amseroedd anodd o’n blaenau. Bydd preswylwyr yn cael clywed yn swyddogol am y tâl yn ystod Ionawr, gyda nodyn atgoffa’n cael ei anfon gyda gwybodaeth Treth y Cyngor ym Mawrth 2018, a bydd ganddynt tan 1 Ebrill i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd. Unwaith y bydd tâl wedi’i dderbyn, bydd sticeri’n cael eu hanfon allan fel y gall criwiau adnabod pa eiddo sydd angen y gwasanaeth. Bydd y gwasanaeth am ddim i bob preswylydd yn ystod Mawrth 2018. Darperir ar gyfer y gostyngiad mewn niferoedd staff o swyddi gwag cyfredol yn y gwasanaeth, ac ni fydd unrhyw swyddi’n cael eu colli o ganlyniad i’r cynigion.