Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid

Published: 14/12/2017

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid a’r Cynllun Gweithredu 2018 – 2021 diwygiedig pan fydd yn cwrdd ar 19 Rhagfyr. Mae’r strategaeth arfaethedig yn ymwneud â phobl syn byw mewn eiddo syn berchen ir Cyngor ac â thenantiaeth gydar Cyngor, ac eraill syn byw ar ystadau syn eiddo ir Cyngor yn bennaf. Ei nodau yw datblygu gwasanaethau tai effeithiol ac effeithlon drwy gynnwys tenantiaid, lesddeiliaid, staff, y gymuned ehangach a budd-ddeiliaid eraill, ac i gefnogi’r rhai sydd am herio a dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaethau drwy ddatblygu dulliau a chyfleoedd sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid, ond sydd hefyd yn darparu gwerth am arian. Bydd y nodau hyn yn caniatáu i’r Cyngor ganolbwyntio ar y blaenoriaethau cyfredol a bennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfranogiad tenantiaid o dan y ddau bennawd, “Grymuso Tenantiaid” a “Hyfforddiant a Gwybodaeth”. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae gan ein timau Cymuned a Menter hanes cryf o gyflawni ymgysylltiad cwsmeriaid llwyddiannus, fodd bynnag rydym yn darparu tai a gwasanaethau cwsmeriaid mewn amgylchedd allanol heriol. Felly, mae’n bwysig bod y dulliau yr ydym yn ymgysylltu â thenantiaid a phreswylwyr yn gost effeithiol ac yn hygyrch ar gyfer pob adran yn y gymuned. Mae’r strategaeth a’r cynllun gweithredu yn rhoi mwy o bwyslais ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg i gael safbwyntiau ac adborth cwsmeriaid, ochr yn ochr âr dulliau mwy traddodiadol o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a gweithio gyda grwpiau preswyl.