Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau i gyffordd Bagillt

Published: 20/12/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi diogelu cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella cyffordd yr A548 a’r A5026 ym Magillt. Mae’r gyffordd hon wedi gweld sawl damwain ddifrifol dros y blynyddoedd. Yn ychwanegol, Bagillt erbyn hyn yw’r unig gymuned arfordirol yn Sir y Fflint heb fynediad diogel i gerddwyr a beicwyr ir arfordir, gyda ffordd ddeuol yr A548 yn torri trwy’r gymuned leol, gan atal mynediad at lwybrau arfordirol Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy. Mae’r gwaith pwysig hwn, a gaiff ei ariannu drwy’r Grant Diogelwch ar y Ffyrdd, i fod i ddechrau ddydd Llun, 8 Ionawr, a disgwylir iddo gymryd deg wythnos i’w gwblhau ac mae’n cynnwys y canlynol: - Diwygiadau i’r lonydd ar ffordd ddynesu’r A548 at y gyffordd gan gynnwys cyflwyno “ynysoedd hollti” sy’n gwahanu traffig gwrthwynebol; - Gosod signalau traffig newydd gyda chroesfan twcan dros yr A548; - Adeiladu llwybr beicio/llwybr troed i gysylltu i Lwybr Arfordir Cymru; - Cau’r slipffordd bresennol o’r A548 i’r A5026; - Lleihau’r terfyn cyflymder i 40mya. Meddai’r Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd y Cyngor: “Bydd y cynllun hwn yn gwella diogelwch i ddefnyddwyr y ffordd, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr. Mae ei hanes o ran gwrthdrawiadau wedi’i waethygu oherwydd bod cerbydau’n croesi ei gilydd o’r ddau gyfeiriad yn ardal y llain ganol, gan eu gorfodi i groesi darn eang o ffordd sy’n hynod o brysur ac sy’n symud yn gyflym. Bydd preswylwyr lleol a’r ddwy ysgol yn y pentref hefyd yn manteisio o allu ymweld â’r llwybrau arfordirol yn ddiogel. “Mae’r Cyngor yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw oedi ac unrhyw anghyfleustra y bydd y gwaith yn ei achosi. Mae rhybuddion traffig dros dro wedi’u rhoi ar waith i gyfyngu ar fynediad i droi i’r dde ar yr A548 i’r gorllewin i’r Stâd Ddiwydiannol a bydd y ffordd ar gau i fynd i mewn ac allan o’r A5026, drwy gydol y gwaith. Caiff mynediad i fusnesau ac eiddo o gwmpas y gwaith ei gynnal drwy gyfnod y gwaith gwella pwysig hwn.”