Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Eirioli Plant a Phobl Ifanc
Published: 15/07/2014
Gellid darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yn
Sir y Fflint gan un sefydliad
ar draws chwe sir Gogledd Cymru os cymeradwyir menter ranbarthol ar y cyd.
Gofynnir i aelodau mewn cyfarfod o’r Cabinet ddydd Mawrth 15 Gorffennaf, i
gefnogir cydweithio rhanbarthol a ddylai wneud arbedion a rhoi gwasanaeth
cyson, trawsffiniol.
Maer gwasanaeth eirioli’n gorff annibynnol syn gwrando ac yn gweithredu ar
safbwyntiau, hawliau a theimladau plant a phobl ifanc mewn gofal. Y ddyletswydd
gyffredinol yw cefnogi plant a phobl ifanc syn gwneud sylwadau neu gwynion am
eu gofal yn Sir y Fflint.
Mae deddfwriaeth yn mynnu bod gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ddarparu
gwasanaeth eirioli proffesiynol annibynnol i blant syn derbyn gofal a phlant
mewn angen. Yn dilyn arweiniad gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru,
mae chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru yn ceisio comisiynu gwasanaeth eirioli
proffesiynol annibynnol rhanbarthol o fis Mawrth 2015 pan fydd trefniadau
presennol Cyngor Sir y Fflint gyda Wrecsam a Sir Ddinbych yn dod i ben.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Maer gwasanaeth eirioli’n flaenoriaeth hanfodol i blant a phobl ifanc mewn
gofal. Maen bwysig iddynt wybod bod rhywun yna a fydd yn gwrando arnynt ac yn
gweithredu ar eu rhan.
“Mae gweithio mewn partneriaeth gydar chwe chyngor sir yn golygu ein bod yn
gallu arbed arian a pharhau i gynnig y gwasanaeth annibynnol gorau posibl, fel
bod pob plentyn yn cael y sylw y maent yn ei haeddu.”