Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Cartrefi Cynnes

Published: 04/01/2018

Ar ddechrau’r flwyddyn, mae’n amserol bod Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus gyda chais am arian effeithlonrwydd ynni. Mae’r Cyngor wedi derbyn £2.7 miliwn o’r Gronfa Cartrefi Cynnes i osod systemau gwres canolog a mesurau effeithiolrwydd ynni mewn hyd at 500 eiddo ar draws Sir y Fflint a darparu mwy o ynni a chymorth iechyd ar draws Gogledd Cymru dros y 3 blynedd nesaf. Mae’r Gronfa Cartrefi Cynnes £150 miliwn wedi’i sefydlu gan y Grid Cenedlaethol, yn cael ei weinyddu gan Datrysiadau Cynhesrwydd Fforddiadwy, Cwmni Budd Cymunedol ac mae’n ariannu cynlluniau tebyg eraill i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Amcanion y Gronfa Cartrefi Cynnes yw gwneud cartrefi sy’n dioddef tlodi tanwydd di-nwy yn fwy cyfforddus, lleihau biliau a gwella canlyniadau iechyd i rai o’r lefelau tlodi tanwydd mwyaf difrifol. Bydd y newyddion hwn yn cael ei groesawu gan rai o’r 9000 o gartrefi yn Sir y Fflint sydd heb fynediad i brif gyflenwad nwy ar hyn o bryd. Bydd y cynllun ar gael i denantiaid y Cyngor, tenantiaid cymdeithasau tai a pherchen-feddianwyr syn diwallu meini prawf cymhwyster penodol. Mae’r cyllid yn darparu cyfleoedd i osod amrywiaeth o dechnolegau ynni a asesir i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr eiddo a’r deiliaid tai. Mewn ardaloedd lle mae nwy ar gael, gall gwelliannau gynnwys gosod boeleri effeithlon o ran ynni. Mewn ardaloedd mwy gwledig lle nad yw cyswllt nwy yn ymarferol neu’n ddilys yn fasnachol yna bydd dulliau technoleg mwy arloesol fel pympiau gwres ffynhonnell aer neu ffynhonnell daear yn cael eu hystyried. Bydd pob mesur yn ceisio gwneud eiddo yn fwy cyfforddus, gwneud costau ynni yn fwy fforddiadwy a lleihau allyriadau nwyon ty gwydr. Dywedodd Jeremy Nesbitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Datrysiadau Cynhesrwydd Fforddiadwy: “Rydym yn gyffrous am y buddsoddiad hwn o’r Grid Cenedlaethol. Mae datrys y materion sy’n gysylltiedig â thlodi tanwydd yn parhau i herio llawer o’n budd-ddeiliaid ac mae’r adborth rydym wedi’i dderbyn eisoes yn darparu tystiolaeth o sut y bydd y Gronfa Cartrefi Cynnes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o gartrefi ledled y wlad.” Yn ogystal, drwy gydweithio gyda’i bartneriaid, bydd Cyngor Sir y Fflint yn ceisio cynorthwyo cartrefi a chymunedau diamddiffyn i leihau eu dyled a phryderon tlodi. Trwy deilwra cyngor a chefnogaeth i’w hanghenion penodol, y bwriad yw gwella iechyd a lles hyd at 3000 o drigolion ar draws Gogledd Cymru yn ogystal â mynd i’r afael â’u costau a’u defnydd o ynni. Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: “O ganlyniad i’r tywydd garw diweddar a brofwyd gan Sir y Fflint, mae’r Cyngor Sir yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn gallu cynnig cefnogaeth i nifer o dai sydd wedi gorfod dioddef systemau gwres gwael a chostau tanwydd uchel. Drwy weithio gyda’n rhwydwaith o bartneriaid dros y 3 blynedd nesaf rydym yn gobeithio gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r bobl hynny sy’n dioddef tlodi tanwydd ac rwyn hyderus y bydd y prosiect hwn yn cynnig buddion cymdeithasol, cymunedol ac amgylcheddol sylweddol. Am fwy o wybodaeth ar y cynllun ac i wybod os ydych yn gymwys i dderbyn cefnogaeth gallwch gysylltu â: 0800 954 0658 neu healthyhomeshp@flintshire.gov.uk