Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Aura a Chyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi buddsoddiad mawr yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug

Published: 10/01/2018

Mae Aura Leisure and Libraries Limited, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, yn falch o gyhoeddi cynlluniau cyffrous i ailddatblygu ac ehangu’r cyfleusterau ffitrwydd a hamdden sydd yn yr Wyddgrug. Ar 19 Rhagfyr 2017, daeth y Cyngor yn rhan o gontract i fuddsoddi £1.4 miliwn i ddyblu maint y cyfleuster ffitrwydd presennol ac adeiladu stiwdio ychwanegol. Bydd hyn yn cyfrannu at gynyddu a chynnal gwasanaethau hamdden yn yr Wyddgrug ar cylch, yn ogystal â darparu gwell cyfleusterau i blant ysgol a fydd yn helpu rhai sydd mewn oedran allweddol i wneud mwy o ymarfer corff. Bydd y datblygiad newydd yn cael ei ariannu drwy gynllun benthyca darbodus y Cyngor, gydag Aura yn talu’r benthyciad yn ei ôl, ac mae’n dangos ymrwymiad y Cyngor i wella gwasanaethau mewn ffyrdd mwy arloesol a fforddiadwy, heb gost i’r Cyngor yma, gan y bydd y cynllun yn talu amdano’i hun dros amser. Bydd Aura yn rheoli ac yn gweithredu’r gwasanaethau newydd yn unol â’i weledigaeth i wella iechyd meddwl a chorfforol. Sefydliad elusennol a dielw sy’n eiddo i’r gweithwyr yw Aura, sy’n gyfrifol am reoli’r mwyafrif o ganolfannau hamdden a llyfrgelloedd Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Rydw i wrth fy modd yn gweld y gwelliannau yma a ’dwi’n siwr y byddant yn boblogaidd ymysg disgyblion a thrigolion lleol. Braf iawn ydi gweld buddsoddi parhaus fel hyn yng nghyfleusterau chwaraeon a hamdden y sir. Dywedodd Tom Williams, Rheolwr Canolfan Hamdden yr Wyddgrug: “Mae tîm Canolfan Hamdden yr Wyddgrug yn edrych ymlaen yn arw at y datblygiad newydd. Mi fydd hyn yn ein galluogi ni i ehangur gwasanaethau rydyn nin eu cynnig ir gymuned ac i barhau i ateb y galw gan gwsmeriaid o bob oed. Bydd adeiladu stiwdio arall ar y llawr gwaelod ac estyniad ar yr ystafell ffitrwydd yn ein cefnogi i ddarparu gweithgareddau newydd ir gymuned ar ddwy ysgol uwchradd gyfagos. Dywedodd Christine Edwards, Cadeirydd Bwrdd Aura: “Rydyn ni’n hynod falch o’r buddsoddiad yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, wrth i ni barhau ar ein taith fel sefydliad newydd dielw sy’n eiddo i’r gweithwyr. Fe fydd y datblygiad yn cyfrannu at nod Aura o ‘fod o fudd i’r gymuned drwy wella ansawdd bywyd drwy ddarparu cyfleoedd hamdden a diwylliant syn gwella iechyd meddwl a chorfforol’. Rydyn nin awyddus i gynnig mwy o ffyrdd fforddiadwy i wneud ymarfer corff drwy ehangu ein gwasanaethau yn yr Wyddgrug fel eu bod nhwn gynaliadwy yn y dyfodol a gweithio’n agos gyda holl aelodau ein cymuned o oed cynnar ymlaen.”