Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Taliadau parcio ceir

Published: 11/01/2018

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn adolygu’r taliadau arfaethedig ar gyfer parcio ceir ac yn argymell eu dewis a ffefrir pan fydd yn cyfarfod nesaf, dydd Mawrth, 16 Ionawr. Nid yw lefelau taliadau parcio ceir wedi’u hadolygu ers eu cyflwyniad yn Ebrill 2015 ac nid yw’r incwm a gynhyrchir yn bodloni’r gost lawn o reoli a gweithredu’r parciau ceir. Maer sefyllfa hon yn groes i bolisi corfforaethol y Cyngor sydd newydd ei fabwysiadu ar gyfer ffioedd a thaliadau, syn disgwyl bod swyddogaethau nad ydynt yn orfodol ond y gellir codi tâl amdanynt, yn cael eu rhoi ar sail adennill costau llawn, lle bynnag y bon bosibl. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Rydym yn byw mewn cyfnodau anodd ac mae codi taliadau mewn meysydd parcio’n mynd i fod yn fater cynhennus bob amser. Fodd bynnag, dyma un o’n hatebion i helpu i fantoli ein cyllideb flynyddol, ac mae angen codi lefelau incwm ar draws pob gwasanaeth. Mae pob Cyngor mewn sefyllfa debyg ac o ymchwil cymharol, mae gan Sir y Fflint gwmpas i gynyddu cyfanswm ei hincwm. Maer cynyddiadau arfaethedig yn rhesymol a byddent yn dal yn isel ou cymharu â siroedd eraill yng Nghymru. Mae effaith tueddiadau parcio lleol wedi’i hystyried yn eang ym mhob tref lle mae taliadau parcio ceir. Mae pob cyfle i gynnig rhywfaint o barcio ar y stryd am ddim, yn agos at ganol y dref, wediu harchwilio, ac maer Cyngor ar hyn o bryd yn ymgynghori gyda dau Gyngor Tref ynghylch y potensial i gael gwared ar rai gorchmynion pedestreiddio, a fydd yn caniatáu cerbydaun ôl ar y Strydoedd Mawr. Mae cynlluniau parcio ‘Preswylwyr yn Unig hefyd yn cael eu hystyried mewn dwy ardal o’r Sir, lle mae parcio wedi’i ddadleoli’n digwydd, o ganlyniad i fannau parcio ceir sydd ddim ar gael yng nghanol y dref, sy’n creu problemau i breswylwyr lleol. Yr elfen fwyaf heriol yw mesur yr effaith a gaiff taliadau parcio ceir ar fywiogrwydd a hyfywedd canol trefi. Mae ymchwil yn dangos nad yw taliadau wedi effeithio ar y defnydd o fannau parcio ceir, yn wir, mae cynnydd wedi bod yn y defnydd mewn chwe thref dros y ddwy flynedd diwethaf. Cei Connah yw’r eithriad, lle mae mannau parcio oddi ar y stryd helaeth. Parhaodd y Cynghorydd Thomas i ddweud: “Cyfanswm cost darparu a rheolir gwasanaeth parcio ceir yw £886,000 y flwyddyn, a byddai hyn yn cael ei adennill gan y newidiadau arfaethedig. Byddai hyn yn arwain at wasanaeth parcio ceir sy’n niwtral o ran cost ac syn adennill y gost lawn.” Nid oes unrhyw gynlluniau i godi’r taliadau parcio ceir yn Nhalacre ar hyn o bryd, gan fod y cyfraddau yno eisoes yn uwch na’r rhai a godir mewn mannau eraill o’r sir. Fodd bynnag, yn yr Wyddgrug, cynigir y byddai’r taliadau hyn yn parhau ar lefel fymryn yn uwch nag mewn ardaloedd eraill o’r Sir, gyda chanran o’r tâl cynyddol yn cael ei ddychwelyd ir Cyngor Tref, i’w caniatáu i fuddsoddi mewn gwelliannau isadeiledd ymwelwyr. Os cytunir ar hyn, bydd y trefniadau codi tâl newydd yn cael eu hysbysebu ym mhob maes parcio yn ystod Chwefror a Mawrth 2018, ac yn dod i rym o 1 Ebrill 2018.