Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru

Published: 15/01/2018

Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint adolygu a gwneud argymhellion i’r Cabinet ar raglen ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru, pan fydd yn cyfarfod ar 18 Ionawr. Bydd Band A y rhaglen yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2019. Mae Sir y Fflint eisoes wedi dechrau cynllunio rhaglen uchelgeisiol o fuddsoddiadau ar gyfer “Band B” y rhaglen a fydd ar fynd o 2019 tan 2024. Ar ben yr arian cyfalaf, bydd arian refeniw a fydd yn golygu y bydd modd gwneud buddsoddiad ychwanegol yn sefydliadau addysg y sir. Yr enw ar hwn ywr Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu cymeradwyaeth, mewn egwyddor, i Raglen Amlinellol Strategol y Cyngor a gyflwynwyd i’r Llywodraeth ym mis Gorffennaf. Yn ei hanfod, dyma ‘ddatganiad o fwriad y Cyngor ar gyfer y rhaglen fuddsoddi Band B am swm o dros £85 miliwn, gan gynnwys datganiad o ddiddordeb y gallai un prosiect fod yn addas ar gyfer Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i raglenni “Band B” gael eu blaenoriaethu ac felly mae prosiectau wediu hasesu au blaenoriaethu ar sail eu hamgylchiadau presennol, er y bydd angen peth hyblygrwydd yn y rhaglen chwe blynedd o hyd hon, a bydd cynnydd yn cael ei adolygun drwyr amser. Bydd yr ymatebion o bob proses ymgynghori ffurfiol yn cael eu cyflwyno i Gabinet y Cyngor Sir, ynghyd â’r asesiad o effaith, yr arfarniad o’r opsiynau ac argymhellion y swyddogion. Yna, bydd y Cabinet yn penderfynu sut i fynd ati i weithredu ar gyfer ardal neu ysgol unigol. Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint dros dro, Claire Homard: “Mae’r rhaglen gyffrous yma wedi dod o hyd i nifer o brosiectau newydd a fydd yn gwella addysg ar gyfer ein trigolion ifanc ac yn sicrhau bod ein hadeiladau a’n hisadeiledd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol newydd yn ein galluogi i fuddsoddi mwy a sicrhau bod ein hadeiladaun cael eu hadeiladu au cynnal i safon uchel, gyson gan y contractwr penodedig am 25 mlynedd, am dâl gwasanaeth blynyddol. Gan fod hwn yn fodel newydd ac yn ffordd newydd o weithio, mae Llywodraeth Cymrun penodi tîm amlddisgyblaethol, arbenigol sydd â phrofiad o bartneriaethau cyhoeddus-preifat i gynorthwyor Cynghorau. Maer Llywodraeth wedi ystyried y problemau a wynebwyd yn y gorffennol mewn cynlluniau ariannu preifat ac mae wedi ceisio lliniarur rhain yn y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, er enghraifft, drwy ddefnyddio model syn canolbwyntio ar oes isadeiledd a bod yr ysgolion yn parhau i ofalu am wasanaethau eraill nad ydynt yn rhai addysg, fel arlwyo, cynnal a chadwr safle a glanhau.