Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth garddio

Published: 15/07/2014

Ddydd Mawrth (15 Gorffennaf) bydd cyfarfod o’r Cabinet yn clywed y bydd y gwasanaeth garddio lle codir tâl amdano, a gyflwynwyd yn gynharach yn y flwyddyn i denantiaid y Cyngor, yn cael ei atal dros dro nes bydd ymgynghoriad llawn. Bydd adolygiad llawn o’r gwasanaeth garddio newydd yn cael ei gynnal yn dilyn problemau gyda’r prosiect gwreiddiol. Bydd tenantiaid tai gwarchod, a’r tenantiaid sy’n anabl ac a oedd yn derbyn y gwasanaeth cyn mis Ebrill (y rheiny heb neb i’w helpu), yn dal i dderbyn y gwasanaeth yn rhad ac am ddim tan fis Hydref eleni. Bydd y gwasanaeth yn dal ar gael am dâl bychan ar y telerau a gytunwyd arnynt yn flaenorol ar gyfer unrhyw gwsmer nad oedd yn derbyn y gwasanaeth cyn mis Ebrill 2014. Bydd ymgynghoriad manwl gydar holl denantiaid a effeithir arnynt gan wasanaethau lle codir tâl amdanynt yn cael ei gynnal. Ar ôl y cyfnod ymgynghori, bydd argymhellion ar gyfer cyflwyniad graddol yn cael ei ystyried gan y Cabinet. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu rhestr o wasanaethau lle codir tâl amdanynt ac yn gofyn i bob awdurdod lleol, nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, i lunio polisi cyflwyno tâl am wasanaethau yn 2015. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: “Mae cadw gerddi mewn cyflwr da yn un o amodau’r denantiaeth. Mae cyflwynor gwasanaeth garddio lle codir tâl amdano wedi arwain at nifer o erddi ddim yn cael eu torri a mannau hyll ar ystadau cyngor. Maen bwysig ein bod yn datblygu’r gwasanaeth cywir i wneud yn siwr bod tenantiaid yn cael gwerth am arian gan y gwasanaeth garddio.