Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Ffliw Adar gan Gyngor Sir y Fflint

Published: 29/01/2018

Mae Gwasanaeth Diogelu Defnyddwyr a Busnes, Cyngor Sir y Fflint yn dymuno gwneud holl geidwaid adar a dofednod ar draws Sir y Fflint yn ymwybodol or cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru i helpu i warchod adar a dofednod rhag lledaeniad posibl y ffliw adar. Oherwydd nifer o achosion o’r ffliw adar a gadarnhawyd ar draws Lloegr yn ddiweddar mae Lloegr a nawr Cymru wedi eu datgan yn Barthau Atal y clefyd. Mae pob achos hyd yma wedi digwydd mewn adar gwyllt ac mae’r risg i ddofednod yn benodol o ledaeniad y clefyd naill ain uniongyrchol neun anuniongyrchol nawr wedi’i godi gan y llywodraeth o risg isel i risg canolig o ddydd Iau 25 Ionawr 2018. Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid, Cyngor Sir y Fflint yn cynghori holl geidwaid adar a dofednod am bwysigrwydd sicrhau lefelau uchel o bioddiogelwch ar gyfer eu hanifeiliaid anwes/da byw i ddiogelu eu hadar eu hunain ac atal unrhyw ledaeniad posibl o’r clefyd. Fel rhagofal, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan Parth Atal Ffliw Adar a fydd yn berthnasol o 00:01 ar 25 Ionawr 2018. Bydd y Parth Atal yn gofyn i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill, waeth sut maent yn cael eu cadw, gymryd camau addas ac ymarferol, yn cynnwys: • Sicrhau nad yw’r ardaloedd lle cedwir adar yn denu adar gwyllt, er enghraifft drwy osod rhwydi dros byllau, a chael gwared ar ffynonellau bwyd adar gwyllt; • Bwydwch a rhowch ddwr ich adar mewn mannau amgaeedig i beidio ag annog adar gwyllt; • Lleihewch symudiad pobl i mewn ac allan o fannau caeedig syn cynnwys adar; • Glanhewch a diheintiwch esgidiau, a chadw’r ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus; • Lleihewch unrhyw halogiad presennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrid, a rhoi ffens o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae diogelu iechyd a diogelwch ein cymunedau a’n heconomi leol yn brif bryder i’r Cyngor ac os byddwn i gyd yn gweithio gyda’n gilydd a dilyn cyngor Llywodraeth Cymru i gadw’r clefyd hwn allan o’n sir, gobeithio y byddwn yn gallu ei atal yn llwyr neu gyfyngu ar ei effaith pe bai haint yn digwydd. Mae canllawiau yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid sydd gyda mwy na 500 o adar i gymryd mesurau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, yn cynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad ydynt yn hanfodol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd ir mannau caeedig syn cynnwys yr adar, a diheintio cerbydau. Bydd holl ddeiliaid dofednod ac adar eraill sydd wedi eu caethiwo angen cydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar. Gofynnir i geidwaid barhau’n wyliadwrus am arwyddion o glefyd. Mae ffliw adar yn glefyd hysbysadwy a dylid rhoi gwybod am unrhyw beth amheus i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Cynghorir holl geidwaid dofednod, hyd yn oed y rhai â llai na 50 o adar i ddarparu eu manylion i’r Gofrestr Dofednod. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy e-bost neu ddiweddariad testun os bydd yna achos o glefyd adar, i’w galluogi i ddiogelu eu praidd gynted â phosibl. Mae gwybodaeth ar ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a datblygiadau diweddaraf i gyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Dylai unrhyw geidwaid adar/dofednod â phryderon am eu hadar gysylltu â’u milfeddygfa breifat neu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar gyfer y cyngor diweddaraf.