Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018

Published: 02/02/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto’n cefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar 6 Chwefror er mwyn hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol, yn arbennig ymysg plant a phobl ifanc. Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu ar ail ddiwrnod yr ail wythnos yn yr ail fis bob blwyddyn; ac mae miloedd o bobl yn uno i godi ymwybyddiaeth o broblemau diogelwch ar-lein a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y byd. Thema eleni yw ‘Creu, Cysylltu a Rhannu Parch: mae rhyngrwyd gwell yn dechrau gyda chi.’ Y llynedd, fe gyrhaeddodd yr ymgyrch 3 miliwn o blant a 2 filiwn o rieni ar draws y DU, a bydd ysgolion Sir y Fflint yn chwarae eu rhan i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth. Dywedodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Gyda’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan mor fawr yn ein bywydau bob dydd, maen bwysig cofio bod yna bobl o hyd a fydd yn chwilio am unrhyw gyfle i gyfaddawdu ar eich diogelwch ar-lein. Mae Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn helpu i godi ymwybyddiaeth pobl o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r byd ar-lein. Mae’n bwysig ein bod ni’n diogelu ein hunain a’n plant a’n pobl ifanc yn erbyn peryglon posibl, i sicrhau nad ydym yn dod yn ddioddefwyr seiberdroseddau.” Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut y gallwch chi aros yn ddiogel ar-lein: - Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a chofiadwy - Gosodwch feddalwedd gwrth-firws ar ddyfeisiau newydd - Gwiriwch osodiadau preifatrwydd eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol - Siopwch yn ddiogel ar-lein – cofiwch wirio a yw safleoedd manwerthu ar-lein yn ddiogel - Lawrlwythwch feddalwedd a phatshys rhaglenni pan ofynnir i chi wneud hynny - Peidiwch byth â chwrdd â ‘ffrind’ ar-lein - Peidiwch â datgelu gwybodaeth bersonol - Os ydych chi’n cael eich bwlio ar-lein – dywedwch wrth rywun cyn i bethau fynd yn waeth - Peidiwch ag uwchlwytho na rhannu lluniau pryfoclyd – unwaith y byddant ar-lein byddant allan o’ch dwylo Dewch i ganfod mwy am Ddiwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a chymryd rhan! www.saferinternetday.org.uk #SID2018.