Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19

Published: 15/02/2018

Ddydd Mawrth, 20 Chwefror, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo ac argymell cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 i’r Cyngor. Mae’r Cyngor yn ddewis landlord ar gyfer dros 7000 o denantiaid yn Sir y Fflint ac mae’r Cyfrif Refeniw Tai yn ariannu’r swyddogaeth bwysig hon. Mae’r Cyfrif Refeniw Tai hefyd yn cwrdd â chostau’r rhaglen codi tai cyngor – y rhaglen gyntaf o’i math yng Nghymru ers cenhedlaeth, costau atgyweirio a chynnal a chadw cartrefi, gwelliannau i stoc a gwelliannau amgylcheddol, prosiectau rheolaeth gymunedol gan gynnwys datrys ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofalu am stadau, casglu incwm a chynnwys cwsmeriaid. Mae’r Cyngor yn gorfod cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau rhent tai cyngor dros amser, ac maer fformiwla ar gyfer gosod rhenti bob blwyddyn hefyd yn cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru. Mae rhenti’n cael eu cyfrifo bob blwyddyn ar sail Mynegai Prisiau i Ddefnyddwyr y mis Medi blaenorol (3%) a chanran go iawn o gynnydd o 1.5%, a hyd at £2 ychwanegol. Os yw hyn yn cael ei gyflwynon llawn, byddain golygu cynnydd mewn rhenti o 4.5% ym mis Ebrill, a hyd at £2 ychwanegol. Mae cynnydd mewn rhent a thaliadau gwasanaeth yn cael eu talu gan Gredyd Cynhwysol a budd-dal tai ar gyfer tenantiaid cymdeithasol. Er hynny, bydd cyfran o denantiaid yn gymwys i dderbyn rhan or budd-dal yn unig ac felly fe allent ei chael yn fwy anodd talu. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae’r Cyngor yn pryderu am fforddiadwyedd i denantiaid ac felly rwyf i ac Arweinydd y Cyngor yn cynnig opsiwn i gynyddu rhenti 3% yn unig ac hyd at £2. Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried hyn ar 16 Chwefror ac yna’n gwneud argymhelliad i’r Cyngor llawn yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Bydd gofyn i’r Pwyllgor Craffu ystyried goblygiadau’r ddau opsiwn a darparu adborth i’r Cabinet cyn ei gyfarfod. Bydd Ffederasiwn y Tenantiaid hefyd yn ystyried y ddau opsiwn yn eu cyfarfod ddiwedd mis Ionawr.” Mae disgwyl i renti garejis gynyddu £1 yr wythnos ac mae cynnig i rent am ddarn o dir ar gyfer garej gynyddu £0.20 yr wythnos. Mae angen ir Cyfrif Refeniw Tai fod â chynllun busnes 30 mlynedd wedii lunio. Mae hwn yn canolbwyntio ar gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), cadw at addewidion y ddogfen Dewisiadau, arbedion effeithlonrwydd parhaus a wnaed a 200 ty cyngor newydd sydd wedi’u hadeiladu. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae £21 miliwn wedi’i gynnwys yn rhaglen SATC ar gyfer 2018/19. Mae’n cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi), gwaith allanol (ffenestri, drysau, toeau, cwterydd, ac ati), rhaglenni amgylcheddol, addasiadau i bobl anabl a gwaith i arbed ynni. “Ar ben hynny, mae £14.2 miliwn arall ar gael ar gyfer Rhaglen Strategol Adfywio a Thai (SHARP) y Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor a chartrefi fforddiadwy’n cael eu hadeiladu yn ystod 2018/19.”