Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynigion Cludiant Cyngor Sir y Fflint

Published: 15/02/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno chwe chais am gyllid diogelwch ar y ffyrdd dan fentrau ‘Llwybrau Diogel mewn Cymunedau’ a ‘Grant Diogelwch ar y Ffyrdd’ Llywodraeth Cymru. Mae’r safleoedd sydd wedi eu nodi ar gyfer eu gwella yn cynnwys Brychdyn (Ysgol Gynradd Brychdyn), Bwcle (Ysgol Gynradd Heol y Mynydd), yr Wyddgrug (Campws Mold Alun ac Ysgol Maes Garmon), A541 Pontblyddyn, B5125 Penarlâg a Ffordd Llan-Arth / Golftyn Lane, B5126 Ffordd yr Wyddgrug a B5129 Stryd Fawr Cei Connah. Cafodd y ceisiadau eu cyflwyno ar 2 Chwefror ac mae’r Cyngor yn disgwyl clywed a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ddiwedd mis Mawrth 2018. Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae’r Cyngor yn parhau i edrych ar ffyrdd i wella diogelwch a chysylltedd y rhwydwaith priffyrdd ac mae’r ceisiadau ariannol hyn i Lywodraeth Cymru yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr wrth gyrraedd y nod hwn. Er bod dyluniadau cychwynnol y cynlluniau wedi eu cwblhau, bydd Cyngor Sir y Fflint yn gweithio’n agos gyda thrigolion lleol, aelodau etholedig a chynghorau tref a chymuned i sicrhau bod y cynigion yn diwallu anghenion y cymunedau. Rydw i’n ffyddiog y bydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r cynlluniau hyn, a fydd yn darparu budd hirdymor i ddefnyddwyr y ffordd a thrigolion. Hoffaf hefyd ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith caled wrth lunio’r ceisiadau.”