Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Polisi Budd-dal Tai
Published: 15/07/2014
Gellid osgoi oedi wrth hawlio budd-dal tai os bydd polisi newydd yn cael ei
gymeradwyo mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (15 Gorffennaf).
Mae’r broses bresennol o ymgeisio am fudd-dal tai yn ei gwneud yn ofynnol i
hawlwyr ddarparu gwahanol ddogfennau i’w dilysu. Mewn nifer o achosion nid yw
pob eitem yn cael eu derbyn gan arwain at oedi cyn talu budd-dal Tai.
Bydd y Polisi Gwirio ar Sail Risg (RBV) yn nodi sut y bydd gwasanaeth
budd-daliadau Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu’r ateb RBV ac yn nodir
ffactorau ar prosesau sydd angen eu dilyn i gynyddu effeithiolrwydd.
Mae RBV yn broses sydd wedi profi ei hun ac wedi’i chytuno gan yr Adran Gwaith
a Phensiynau sy’n caniatáu dull wedi’i dargedu tuag at ddilysu hawliadau am
fudd-daliadau gan asesu’r tebygolrwydd o dwyll ym mhob cais.
Mae RBV yn ddull o wneud cais am wahanol lefelau o wiriadau dilysu hawliadau
budd-dal yn ôl y risg a ragwelir syn gysylltiedig â’r hawliadau hynny. Bydd
Awdurdodau Lleol sy’n mabwysiadu’r RBV yn dal i fynnu fod pob hawliwr yn
cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a rhaid i hawlwyr risg isel allu darparu
dogfennau Yswiriant Gwladol a thystiolaeth o hunaniaeth.
Mae angen gweithgarwch gwirio mwy helaeth ar y ceisiadau hynny lle rhagwelir
fod mwy o risg o dwyll a chamgymeriadau.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol:
“Drwy fabwysiadu’r polisi hwn gallwn wella a chyflymu’r broses ar gyfer darparu
budd-dal tai i drigolion Sir y Fflint sydd angen y cymorth hwn.