Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arwyr yn dod ynghyd ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru

Published: 21/02/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o ddigwyddiad Gwanwyn Glân Cymru eleni, a gaiff ei gynnal o Ddydd Gwyl Dewi sef Mawrth 1af i 4 Mawrth. Ymgyrch genedlaethol yw hon i annog pobl ar draws Cymru i ddod ynghyd i helpu i lanhau ein Cymru hardd! Mae’r digwyddiad yn rhan o Wanwyn Glân Prydain, ac mae Cadwch Gymru’n Daclus yn awyddus i ysbrydoli pobl Cymru i fynd allan i’r awyr agored, bod yn heini a bod yn falch o lle maent yn byw. Mae Ceidwaid Cefn Gwlad Sir y Fflint yn ymuno gyda gwirfoddolwyr, y tirfeddianwyr Eni UK Ltd a Chadwch Gymru’n Daclus i gasglu sbwriel yn Nhalacre fel rhan o gynllun Gwanwyn Glân Cymru 2018. Caiff y digwyddiad cyntaf yn Sir y Fflint ei gynnal yn Nhalacre ddydd Gwener 2 Mawrth am hanner dydd. Dylai unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan gwrdd ar y traeth a bydd yr holl offer yn cael ei ddarparu. Digwyddiad ar y cyd yw hwn rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cadwch Gymru’n Daclus ac Eni. Ar yr un pryd bydd digwyddiad ‘Gwylio’r Traeth’ Y Gymdeithas Gadwraeth Forol yn cael ei gynnal. Mae’r digwyddiad hwn yn ffurfio rhan o ddigwyddiad cenedlaethol lle mae grwpiaun dewis rhan fach or traeth, yn dadansoddi’r sbwriel gaiff ei gasglu ac yn adrodd yn ôl i’r Gymdeithas Gadwraeth Forol i greu darlun o lle y daw’r sbwriel (er enghraifft y cyhoedd, cychod, tipio anghyfreithlon, pysgota, y byd meddygol neu garthffosiaeth). Dydd Sul, 4 Mawrth fe fydd yna ddigwyddiad glanhau arall ym Mharc Gwepra o 11am - 2pm, cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr. Wedi ei drefnu gan Gyfeillion Parc Gwepra ac wedi ei gefnogi gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, caiff unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan eu hannog i ddod draw wedi gwisgo fel eu hoff uwch-arwr. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint: “Bydd tîm Strydwedd Sir y Fflint hefyd wrth law i gasglu gwastraff a storio unrhyw blastig gaiff ei gasglu. Mae cadw plastig ar wahân i ddeunyddiau eraill gaiff eu hailgylchu yn profi i fod yn bwysig gan fod cadw gwastraff plastig o amgylcheddau morol yn helpu i leihau’r effeithiau niweidiol sy’n parhau am gyfnod hir ar fywyd morol fel sydd wedi ei bwysleisio yn y cyfryngau yn ddiweddar. “Rydym yn awyddus i annog unrhyw un sy’n gallu cymryd rhan – dewch draw i unrhyw ddigwyddiad neu’r ddau – does dim angen cadw lle, bydd croeso i chi os y dewch ar y diwrnod! Dywedodd llefarydd ar ran Cadwch Gymru’n Daclus: “Ein huchelgais yw y bydd 2018 yn nodi trobwynt yn y frwydr yn erbyn llygredd morol. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau ar draws yr holl sectorau i daclo’r mater drwy weithredu ymarferol, addysg ac ymgyrchoedd. Gall pawb chwarae eu rhan i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaol i’n hamgylchedd morol. Ymunwch â ni os gwelwch yn dda i ofalu am ein harfordir. “Er mwyn cael y diweddaraf am Wanwyn Glân Cymru dilynwch #gwanwynglancymru ar y cyfryngau cymdeithasol.” Os hoffech anfon gohebydd, ffotograffydd neu griw ffilmio i’r digwyddiadau hyn, cysylltwch os gwelwch yn dda â communication@flintshire.gov.uk am fwy o fanylion.