Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eich llwybr i yrfa newydd

Published: 01/03/2018

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a Choleg Cambria wedi creu cyfle i chi dderbyn hyfforddiant, dysgu sgiliau newydd ac ennill profiad yn y sector gweinyddol. Os hoffech chi newid gyrfa neu wella’ch sgiliau, yna beth am ystyried swydd weinyddol? Yn ogystal â chwrdd â phobl, mae swydd weinyddol yn yrfa bwysig ac angenrheidiol ac mae gweinyddwr da yn asgwrn cefn ar gyfer rhedeg unrhyw fusnes yn effeithlon. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru syn cefnogi, gwella sgiliau ac yn cynnig profiadau sy’n helpu unigolion i gael gwaith. Os hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn i ennill hyfforddiant achrededig i weithio yn y sector busnes, cysylltwch â Chymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 i dderbyn mwy o wybodaeth ac i gadw lle. Bydd y gweithdai yn dechrau fis Ebrill ac yn cael eu cynnal deuddydd yr wythnos o 9.30am tan 2.30pm yng Nghampws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria.