Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Buddsoddi mewn gwasanaethau tai
Published: 15/07/2014
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cael mwy o ryddid i fuddsoddi mewn gwasanaethau tai
cyngor os bydd cynlluniau ariannol newydd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu
cefnogi gan Gynghorwyr yn ystod cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (15
Gorffennaf).
Mae 11 o gynghorau ar draws Cymru yn aelodau or system gymhorthdal Cyfrif ??
Refeniw Tai presennol Cymru. Yn dilyn trafodaethau llwyddiannus rhwng
Llywodraeth Cymru a Thrysorlys y Deyrnas Unedig, bydd y system gymhorthdal ??
hon, sy’n arwain at gymhorthdal negyddol ac nad yw’n cynnig cymhellion i
adeiladu tai newydd, wedi ei diddymu erbyn mis Ebrill 2015.
Y cam nesaf yn y broses yw sefydlu cytundeb gwirfoddol i alluogi’r 11 cyngor i
gyflwyno hunan-gyllido. Os cytunir ar y cynlluniau, gallair Cyngor Sir dderbyn
cymeradwyaeth i fenthyca £14 miliwn i adeiladu tai newydd a £25 miliwn ar gyfer
gwaith adnewyddu i gwrdd â Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Mae aelodau etholedig wedi bod yn gweithion agos gyda chydweithwyr mewn
awdurdodau eraill ac â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyrraedd consensws
ar gyfer y cytundeb gwirfoddol yn ogystal â chynnal cyfarfodydd gydar pwyllgor
craffu ar Ffederasiwn Tenantiaid.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: “Dymar cam nesaf mewn
proses sy’n rhoi llawer mwy o ryddid i’r Cyngor ddewis sut mae o am fuddsoddi
arian yn ei stoc dai. Bydd yn golygu y gellir adeiladu tai newydd ac adnewyddu
mwy o gartrefi er mwyn codi ansawdd tai presennol.”
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae Cyngor Sir y
Fflint wedi arwain ymgyrch ar gyfer cynghorau i gael mwy o ryddid i fuddsoddi
mewn cartrefi presennol ac i ailddechrau adeiladu tai Cyngor. Mae wir angen tai
Cyngor newydd arnom ni ac rydym ni’n annog pob Awdurdod Lleol yng Nghymru i
gefnogir cytundeb gwirfoddol.