Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trafod adolygiad o farchnadoedd stryd

Published: 08/03/2018

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn trafod adroddiad ar ddyfodol marchnadoedd stryd pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf. Mae marchnadoedd stryd yn Sir y Fflint ac ar draws y DU wedi dirywio o ran maint dros y blynyddoedd. Heblaw marchnad Yr Wyddgrug, sy’n parhau’n llwyddiannus, mae gweddill y marchnadoedd stryd yn Sir y Fflint ond yn denu nifer fechan o stondinwyr marchnad a nifer cyfyngedig o gwsmeriaid sy’n bygwth eu cynaladwyedd. Cynhaliwyd adolygiad yn ogystal ag ymgynghoriad gyda Chynghorau Tref yng Nghei Connah, y Fflint a Threffynnon. Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori hefyd gyda stondinwyr marchnad yn y Fflint a Threffynnon. Yr argymhellion ar gyfer yr adolygiad hwn yw: cau marchnad stryd y Fflint yn barhaol cytuno i drosglwyddo gweithrediad marchnad stryd Cei Connah i Gyngor Tref Cei Connah dros dro, yn amodol ar gadarnhad gan y Cyngor Tref a chytuno ar delerau; parhau i weithredu marchnad stryd Treffynnon dros dro ond parhau i drafod gyda Chyngor Tref Treffynnon ar ddewisiadau ar gyfer arbedion costau yn y dyfodol. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygiad Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Yn gyffredinol, mae marchnadoedd yn cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithasol ac economaidd y trefi a gallant ddod â mwy o bobl i’r trefi sydd o fudd ir busnesau a gwasanaethau ehangach. Mae hyn yn parhau’n wir yn Yr Wyddgrug, ond mae marchnadoedd eraill wedi lleihau o ran maint yn sylweddol yn y pedair blynedd ddiwethaf, er gwaethaf mentrau hybu a thwf ar draws holl drefi marchnad. “Yn yr hinsawdd economaidd presennol hwn, gyda’r Cyngor angen dod o hyd i fwy o effeithlonrwydd yn ychwanegol at y £79miliwn o doriadau mewn gwariant dros y deng mlynedd nesaf, nid yw’n gynaliadwy cynnal colled incwm sylweddol yn y dyfodol. “Rydym yn gwerthfawrogi pryder trigolion lleol, yn arbennig y rhai sydd wedi arwyddo’r ddeiseb i gadw marchnad y Fflint yn agored, ac nid yw’r penderfyniad hwn yn cael ei gymryd yn ysgafn. Byddai’r newidiadau a argymhellir, os cymeradwyir, yn golygu y byddai yna £21,000 yn llai o ddiffyg arian i’r gwasanaeth bob blwyddyn.