Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Amser cyffrous i gludiant yn Sir y Fflint

Published: 14/03/2018

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn trosolwg o’r gwaith sy’n mynd rhagddo i ddarparu datrysiad Trafnidiaeth Integredig y Cyngor pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf. Mae’r trefniant cludiant integredig llawn wedi ei fabwysiadu fel elfen allweddol o system Fetro Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu cyllid cyfalaf sylweddol ar gyfer y cynllun. Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Carolyn Thomas: “Mae 400 o fusnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac maen cyflogi 9,000 o bobl. Mae’n un o’r ystadau diwydiannol mwyaf yng Nghymru ac yn sbardun allweddol i’r economi ar gyfer y rhanbarth. Mae swyddi ar gael ond gall fod yn anodd i bobl gael mynediad atynt. Mae tagfeydd traffig yn broblem a gall gymryd cyfnod afresymol o amser i weithwyr yn ogystal â dosbarthwyr nwyddau a gwasanaethau gyrraedd a gadael y Parc. “Mae’r Cynllun hwn yn gyffrous iawn i’r Sir. Bydd yn integreiddio pob dull o gludiant yn llwyddiannus a darparu ar gyfer gofynion pob un, gan gynnal a hyrwyddo gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar yn greiddiol iddo ar yr un pryd. “Bydd yn cynnwys rhwydwaith o lwybrau beicio penodedig yn gwasanaethu’r holl fusnesau ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, canolfan reilffordd / ffordd / bysiau fydd yn darparu mynediad i’r parc o orsaf newydd arfaethedig Parkway Glannau Dyfrdwy a fydd, gobeithio yn cael ei hadeiladu yn agos at yr A548 gyfredol, darpariaeth gwasanaeth bws gwennol rheolaidd drwy’r parc, canolfan bysiau / trenau yng Ngorsaf Shotton, canolfan bws gwennol yn Garden City a gwell amseroedd ar gyfer teithiau bws gwell ar hyd coridor Shotton/Fflint. Mae gwaith eisoes wedi cychwyn ar y mesurau llwybrau beicio a bysiau drwy Barth 3 y Parc, a bwriedir cychwyn ar waith y seilwaith parcio ceir dros y misoedd nesaf. Mae’r prosiect yn amlygu beth y gellir ei gyflawni pan fydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a busnesau lleol i ddod o hyd i ddatrysiadau a fydd yn cynorthwyo datblygiad hir dymor yr holl ardal ac yn gwarchod swyddir bobl syn gweithio yno. Mae’r ardal o amgylch Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi bod yn destun nifer o astudiaethau diweddar, gyda phob un yn dod i’r casgliad mai un o’r prif ffactorau sy’n cyfyngu ar dwf yw’r cysylltiadau cludiant gwael i mewn ac o amgylch y Parc a bwriad y cynllun yw darparu trigolion Sir y Fflint a’r ardal ehangach gyda mynediad hawdd at y canolbwynt pwysig hwn i gyflogaeth mewn modd cynaliadwy a chost effeithiol.