Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Blwyddyn y Môr!

Published: 14/03/2018

Mae’n Flwyddyn y Môr ac mae ceidwaid arfordir Sir y Fflint yn bwriadu mynd i’r afael â phlastigion morol y penwythnos yma. Maen nhw wedi trefnu digwyddiad casglu sbwriel ar hyd afon Dyfrdwy, o bont droed Saltney Ferry i’r bont las yn Queensferry. Mi fydd Ceidwaid Sustrans yn gweithio ochr yn ochr â’n ceidwaid ni, gan fynd ar eu beics i lanhau cymaint o’r ardal â phosibl. Meddai Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Rydym ni’n chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â ni a chlirio popeth, o eitemau mawr i ddarnau bychain o blastig, or darn yma or arfordir. Mae’n waith caled, a bydd arnoch chi angen esgidiau glaw a menig, a diod a thamaid i’w fwyta. “Mae croeso i deuluoedd ond maen rhaid i rieni aros a gweithio ochr yn ochr âu plant yn ystod y digwyddiad glanhau mawr hwn. Meddai Graham Harper, Ceidwad Sustrans: “Mae gennym ni raglen waith ar hyd y llwybrau beiciau ac rydym ni’n barod iawn ein cymwynas i ymuno â cheidwaid yr arfordir i ymgymryd â’r dasg bwysig hon. Byddwn ar y safle am bedair awr a gwerthfawrogem eich cymorth; bydd hyd yn oed hanner awr o waith yn golygu clirio llawer o sbwriel.” Bydd bagiau bin a chyfarpar codi sbwriel yn cael eu darparu. Y cwbl y bydd arnoch chi ei angen ydi brwdfrydedd! Cwrdd Byddwn yn cwrdd ger pont droed Saltney Ferry am 10am ddydd Sul, 18 Mawrth. Mae’r gwaith yma’n cael ei noddi gan Airbus a Kingspan er mwyn cael môr glân yn ystod Blwyddyn y Môr.