Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Datblygu Strategol

Published: 21/03/2018

Yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo ymateb arfaethedig i lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at holl awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn eu gwahodd i roi eu barn ar baratoi Cynllun Datblygu Strategol (CDS) ar gyfer y rhanbarth. Mae CDS yn gynllun a fyddai’n caniatáu materion mwy na rhai lleol fel tai, cyflogaeth ac isadeiledd i gael eu hystyried mewn modd integredig a chynhwysfawr ar draws y rhanbarth. Gallai cynllun o’r fath leihau cymhlethdod ac ailadrodd sydd wedi eu cynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Gall Sir y Fflint yn sicr weld gwerth cynhyrchu CDS ar gyfer y rhanbarth, ond fel Cyngor mae gennym un pryder o bwys ynghylch y cynnig. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn llythyr Ysgrifennydd y Cabinet ynglyn â phwy fyddai’n cynhyrchu cynllun o’r fath ac rhaid i ni roi blaenoriaeth i gynhyrchu a mabwysiadu CDLl Sir y Fflint. Ni allwn fforddio symud ein swyddogion cynllunio, sydd wedi ymrwymo’n llawn i’n CDLl, oddi wrth y dasg honno er mwyn gweithio ar CDS rhanbarthol.”