Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Published: 15/07/2014

Bydd manylion prosiectau a gwblhawyd sy’n cadw hawliau tramwy’r sir mewn cyflwr da yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (15 Gorffennaf). Maer gwaith yn rhan or trydydd adroddiad blynyddol i dynnu sylw at dîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir y Fflint syn gyfrifol am gynnal a chadwr rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus syn cynnwys llwybrau troed, llwybrau beiciau a llwybrau ceffylau. Maer adroddiad yn cynnwys prosiectau syn dangos cynnydd y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy syn parhau i dderbyn cefnogaeth cymorth grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae cynlluniau gorffenedig yn cynnwys llwybr beicio Burton Point, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol gan ddenu miloedd o feicwyr; Llwybr yr Arfordir yn y Parlwr Du, Talacre a gafodd ei drwsio oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch ar ôl i law trwm erydu’r llwybr; pont bren 6m a godwyd yn Nercwys yn ller un a oedd wedi dadfeilio a llwybr bordiau 35m a giât newydd wedi’u gosod yng Nghoed Talon Marsh lle mae llwybr troed lleol a ddefnyddir yn aml wedi mynd yn anniogel oherwydd bod yr ardal yn wlyb ac yn gorsiog. Mae atgyweirio Llwybr Arfordir Cymru Gyfan hefyd wedi cyrraedd brig yr agenda oherwydd y stormydd gaeaf dinistriol ac mae arolygwyr hefyd yn hyrwyddo Prosiect Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint syn gwella, datblygu a hyrwyddo cyfres o lwybrau troed, llwybrau beiciau a llwybrau ceffylau yn Sir y Fflint wledig gan ddefnyddio cyllid grant. Maer tîm hawliau tramwy hefyd yn gyfrifol am gynnal y rhwydweithiau o ddydd i ddydd, gan gynnwys arwyddion, cynnal a chadw, ac asesu gwaith atgyweirio. Maent yn gweithio gyda system feddalwedd syn caniatáu i hawliau tramwy gael eu mapio allan gan gynnwys yr holl giatiau a chamfeydd a gall trigolion roi gwybod am broblemau drwyr system hon. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Cabinet, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Mae’r gwasanaeth Hawliau Tramwy yn gwneud gwaith gwerthfawr i gynnal a chadw rhwydwaith y Sir o lwybrau troed a llwybrau beicio i drigolion ac ymwelwyr fwynhau cefn gwlad hardd Sir y Fflint. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod ein llwybrau yn aros ar agor ar gyfer gweithgareddau hamdden yn ogystal â bod yn rhan bwysig o gadwraeth yn yr ardal.”