Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadau derbyniadau ysgolion ar gyfer 2019

Published: 16/03/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint argymell cymeradwyo trefniadau derbyniadau ar gyfer mis Medi 2019 ddydd Mawrth, 20 Mawrth. Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol, awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Ionawr a Chwefror. Roedd yn ymwneud â nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgolion unigol, yn seiliedig ar feini prawf a rheoliadau cenedlaethol. Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (tua 96%) o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu gyda nifer eithaf bychan o apeliadau. Mae newidiadau arfaethedig ir niferoedd derbyn mewn dwy ysgol i adlewyrchu newidiadau yn yr adeiladau. Mae’r holl newidiadau wedi cael eu cymeradwyo gan y penaethiaid perthnasol. Yr ysgolion yw Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug ac Ysgol Gynradd Brychdyn. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: Rwy’n falch bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint, unwaith eto, yn gallu mynychur ysgol y maent wedii dewis. Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i ddychwelyd eu ffurflenni neu geisiadau ar-lein erbyn y dyddiad gofynnol. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori diweddar ac rwy’n hyderus y bydd mwyafrif llethol o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu.”