Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Aura

Published: 21/03/2018

Cytunodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar Gynllun Busnes Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ar gyfer 2018/19 a chytunwyd i ryddhau cyfanswm o £3.773 miliwn o gyllid refeniw i Hamdden a Llyfrgelloedd Aura (Aura) ar gyfer 2018/19. Dywedodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr Aura a gyflwynodd yr adroddiad i’r Cabinet: “Mae Aura mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, wedi gwneud cynnydd cadarnhaol iawn yn ei flwyddyn gyntaf o weithredu. Rydym wedi cynnal gwasanaethau a swyddi ac wedi gwneud arbediad effeithlonrwydd o 10% yn y gyllideb yn 2017/18 (effaith blwyddyn gyfan o £0.574 miliwn). “Yn ogystal, bydd dau ddatblygiad cyfalaf o bwys gwerth £2.4 miliwn yn cael eu cwblhau eleni, ac mae’r ddau yn cael eu hariannu gan Aura heb gost i’r Cyngor na thrigolion Sir y Fflint.” Mae’r datblygiadau cyffrous hyn yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug a Phafiliwn Jade Jones yn y Fflint. Mae cyfanswm o £1.447 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug, i ddyblu maint y cyfleuster ffitrwydd llawr gwaelod presennol ac i adeiladu stiwdio llawr cyntaf ychwanegol. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ionawr, ac mae disgwyl i’r cyfleuster newydd agor yn ail hanner mis Mai eleni. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r gwelliannau ym Mhafiliwn Jade Jones yn cynnwys estyniad i’r ystafell ffitrwydd bresennol drwy gael gwared ar y swyddfeydd presennol i greu ystafell ffitrwydd â 55 gorsaf ac adnewyddu ystafelloedd newid gwlyb presennol y pwll nofio gyda chynnydd yn cael ei ddarparu i’r man gwylio ar ymyl y pwll. Amcangyfrifir fod cost y cynllun hwn ychydig o dan £1 miliwn. “Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol i leoliadau eraill hefyd yn cael eu datblygu.” Mae Aura wedi bod yn gweithredu ers mis Medir llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer o gamau allweddol y cynllun busnes gwreiddiol wedi cael eu cyflawni gan gynnwys ailstrwythuro staffio mewn llyfrgelloedd a datblygu chwaraeon ac ymestyn y gwasanaethau taliadau debyd uniongyrchol.