Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


The Walks, y Fflint

Published: 23/03/2018

Mae gwaith ar ddatblygiad tai The Walks yn y Fflint yn mynd rhagddo’n dda iawn. Bydd y datblygiad ar hen safle fflatiau deulawr y Cyngor yn cynnwys 92 o dai cyngor a thai rhent fforddiadwy, a fydd yn gymysgedd o dai dwy a thair ystafell wely yn ogystal â rhandai un a dwy ystafell wely. Mae allweddi’r bloc rhandai gorffenedig, sy’n cynnwys 24 o randai un a dwy ystafell wely, wedi eu trosglwyddo’n ddiweddar ir tenantiaid newydd. Mae datblygiad The Walks yn elfen bwysig o’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) ehangach i godi 500 o dai cyngor a fforddiadwy ar wahanol safleoedd yn Sir y Fflint. Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Wates Residential, sy’n gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi leol a’r cyngor lleol i ddarparu’r rhaglen ar draws Sir y Fflint. Bu i Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Aaron Shotton, ynghyd â’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai, y Cyng. Bernie Attridge, a’r Aelod Ward Lleol, y Cyng. Ian Roberts, ymweld â’r datblygiad yn ddiweddar i gwrdd â’r tenantiaid sy’n symud i fyw i’r bloc rhandai newydd, a fydd yn cael ei alw yn Queen Elizabeth II. Meddai’r Cyng. Shotton: “Mae datblygiad The Walks yn rhan o strategaeth adfywio ehangach y Cyngor a fydd, yn ychwanegol at y tai newydd, hefyd yn elwa ar gynllun gofal ychwanegol a chanolfan feddygol. Bydd y datblygiadau hyn yn trawsnewid y Fflint ac yn creu treflun gwell a gwasanaethau newydd a hygyrch yng nghanol y dref.” Meddai’r Cyng. Bernie Attridge: “Mae SHARP yn parhau i ddarparu cartrefi o safon uchel sydd wir eu hangen ar y Fflint. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wireddu buddion SHARP er lles cymunedau gwahanol yn Sir y Fflint ac i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o godi 20,000 o dai newydd yng Nghymru erbyn 2021.” Meddai’r Cyng. Ian Roberts, sydd hefyd yn cadeirio Gweithgor Adfywior Fflint: “Mae’n braf gweld y weledigaeth i adfywio’r Fflint yn dechrau dwyn ffrwyth, diolch i ymrwymiad a gwaith caled y gymuned leol sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir a phartneriaid o’r sector cyhoeddus. Yn ogystal â gwella’r tai sydd ar gael i drigolion lleol, mae busnesau lleol yn y Fflint hefyd yn elwa ar adfywiad canol y dref.”