Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tai cyngor newydd Heol y Goron, Coed-llai

Published: 23/03/2018

Mae’r pum ty cyngor newydd bellach wedi eu trosglwyddo i’r tenantiaid. Mae Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Aaron Shotton, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai, y Cyng. Bernie Attridge a’r Aelod Lleol, y Cyng. Ray Hughes wedi bod o gwmpas y tai newydd. Roedd yr hen safle garejis yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd hynnyn cael effaith andwyol ar y trigolion lleol. Mae’r pum ty wedi eu gosod i bobl leol drwy Bolisi Gosod Lleol ac yn rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP) i godi 500 o dai cymdeithasol a fforddiadwy yn Sir y Fflint. Meddai’r Cyng. Shotton: “Rwyf yn falch iawn bod y Cyngor yn parhau i gadw at ei addewid i ddarparu tai fforddiadwy o safon uchel er mwyn galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau lleol. Mae’r tenantiaid y bu i ni gwrdd â nhw wrth eu bodd gyda’u cartrefi newydd.” Meddai’r Cyng. Attridge: “Mae’r datblygiad hwn yn adeiladu ar lwyddiant safleoedd eraill yng Nghei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Shotton. Fel Cyngor, rydym ni wedi ymrwymo i estyn Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor i bob rhan o Sir y Fflint fel bod pob cymuned yn elwa ar gartrefi newydd o safon, sydd hefyd yn creu swyddi a gwaith i fusnesau lleol.” Meddai’r Cyng. Ray Hughes: “Roedd yr hen garejis yn edrych yn ofnadwy ac yn achosi problemau gwrthgymdeithasol i drigolion lleol. Mae’r datblygiad newydd wedi trawsnewid y safle yn ogystal â galluogi teuluoedd ifanc i barhau i fyw yng Nghoed-llai a mynd â’u plant i’r ysgol gynradd leol.”