Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llys Alexandra

Published: 22/05/2018

Llys Alexandra yn yr Wyddgrug yw’r datblygiad tai cyngor newydd diweddaraf o dan Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) Sir y Fflint mewn partneriaeth â chwmni Wates Residential. Bydd Llys Alexandra yn stryd bengaead o 16 o dai cyngor newydd sbon a adeiladir ar hen safle Ysgol Delyn ger Ffordd Alexandra ac maer gwaith bron â chael ei gwblhau. Mae’r tenantiaid cyntaf eisoes wedi symud i mewn i’w cartrefi newydd Bu Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton, a’r aelod ward lleol, y Cynghorydd Chris Bithell, yn ymweld â’r datblygiad ac yn cwrdd â thenantiaid newydd a gweld sut mae safler hen ysgol wedi cael ei drawsnewid yn ddatblygiad tai modern o safon uchel. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint; “Rwy’n hynod falch or cynnydd gwych syn dal i gael ei wneud i ddarparu ein rhaglen adeiladu tai. “Mae’r galw am dai cymdeithasol fforddiadwy yn ein holl gymunedau, trefol a gwledig, yn dal i dyfu ac rydym yn benderfynol o gynnal y momentwm sydd wedi’i ennill dros y tair blynedd diwethaf i ateb y galw hwnnw drwy ein rhaglen dai uchelgeisiol. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i godi cap Sir y Fflint ar fenthyca er mwyn i ni adeiladu mwy a diwallu anghenion lleol. “Rwy’n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn darparu’r tai cyngor newydd sbon cyntaf yn yr Wyddgrug ers cenhedlaeth.” “Mae Llys Alexandra a chynlluniau eraill sydd wedi cael eu cwblhau o dan ein rhaglen hyd yma, megis Llys Custom House yng Nghei Connah a Heol y Goron yng Nghoed-llai, yn ganolbwynt i’n cymunedau lleol ac yn darparu tai o safon uchel gan helpu i gynnal y cymunedau hynny a chreu cyfleoedd gwaith.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai; “Fel pob cynllun tai cyngor a ddatblygir o dan raglen SHARP, bydd tai Llys Alexandra yn cael eu trosglwyddo i denantiaid newydd o dan bolisi gosod tai lleol sy’n golygu bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl leol i’w galluogi i ddal i fyw yn eu cymunedau lleol. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, aelod lleol dros Ddwyrain yr Wyddgrug; “Mae datblygiad Llys Alexandra wedi’i adeiladu gyferbyn â’r tai cyngor cyntaf i gael eu hadeiladu yn yr Wyddgrug yn ôl yn 1924 i ddarparu tai cymdeithasol yr oedd gwir eu hangen mewn cymunedau lleol ar y pryd. Rwy’n falch iawn bod safle hen Ysgol Delyn wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu tai fforddiadwy y mae gwir eu hangen i bobl yr Wyddgrug heddiw.” Nodyn i olygyddion Yn y llun ynghlwm mae (chwith ir dde) Dawn Kent, Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton, gyda thenant newydd Sara Arrow Smith a’i phlant Leah a Rhys, y Cynghorydd Chris Bithell a Mick Cunningham o gwmni Wates Construction