Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mynegi Awtistiaeth

Published: 18/04/2018

Mae arddangosfa ffotograffig i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o Awtistiaeth yn cael ei chynnal yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug. Mae’r arddangosfa’n seiliedig ar waith ffotograffig ysbrydoledig Ken Ashton, artist lleol a gafodd ddiagnosis o Awtistiaeth yn ddiweddar wedi iddo gael trafferthion blaenorol yn ffitio i mewn i waanaethau cymunedol. Mae Ken yn wirfoddolwr allweddol yn natblygiad Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru (GAI/IAS), menter unigryw gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2018. Mae Ken hefyd yna awyddus i gyd-artistiaid gysylltu ag ef gyda’r nod o greu Canolbwynt Artistiaid a gellir cysylltu ag ef ar www.sygibney.com Meddai Neil Ayling, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol; “Cyngor Sir y Fflint fydd yr awdurdod lleol ‘lletyol’ yng Ngogledd Cymru ar gyfer y Tîm GAI a fydd hefyd yn gwasanaethu Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Bydd y Tîm GAI yn rhoi gefnogaeth i bobl Awtistig o bob oed a’u teuluoedd a’u gofalwyr. “Tra bydd y GAI ar gael i bobl o bob oed ni fydd yn disodli unrhyw wasanaethau sydd eisoes wedi eu sefydlu, ac nid yw ychwaith yn wasanaeth argyfwng. Bydd y Tîm GAI hefyd yn anelu at ddarparu hyfforddiant a chyngor am Awtistiaeth i amrywiaeth o wasanaethau’r cyngor ac asiantaethau partner. Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Fe wnaeth Ken yn garedig iawn ganiatáu i ni ddefnyddio peth o’i waith i hyrwyddo ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn Sir y Fflint a Gogledd Cymru gyda’r nod o wneud i bobl feddwl am gyfarfod, gweithio gyda neu fod yn gyfaill i rywun gydag Awtistiaeth yn y gobaith y bydd Awtistiaeth yn cael ei ddeall yn well a’i dderbyn mewn cymunedau ar draws y rhanbarth er mwyn galluogi pobl i integreiddio’n fwy cadarnhaol.” Meddai Ken Ashton; “Ers y llynedd rwyf wedi bod yn rhan o helpu i sefydlu’r GAI ac rydw i eisiau gweithio gyda gwasanaethau er mwyn helpu i’w gwneud nhw’n fwy hygyrch i bobl fel fi sydd ag Awtistiaeth. Gall 5% o ymdrech gan y gwasanaethau wneud 100% o wahaniaeth o safbwynt helpu i integreiddio pobl gydag awtistiaeth yn y gymuned.” Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Awtistiaeth ar wefan Gwybodaeth GAI Cymru: http://www.asdinfowales.co.uk/ Nodyn i Olygyddion Yn y llun atodedig mae; O’r chwith i’r dde: Cynghorydd Wisinger; Neil Ayling, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol; Jo Taylor, Rheolwr y Gwasanaethau Cymdeithasol; Melanie Hough; yngh Christine Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Joanne Sefton, myfyriwr gwaith cymdeithasol.