Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Caffael Rhanbarthol Tair Sir

Published: 15/07/2014

Gallai pwer prynu tri o siroedd gogledd Cymru gael eu cryfhau os caiff achos busnes ar gyfer prosiect i rannu gwasanaethau ei gefnogi gan Aelodau Cabinet yn ystod cyfarfod ddydd Mawrth (15 Gorffennaf). Mae Cynghorau Sir y Fflint a Sir Dinbych wedi uno eu hunedau caffael corfforaethol ond gallai trydedd sir, Gwynedd elwa o rannu rhai o’r gwasanaethau. Amcangyfrifir y gellir gwneud arbedion posibl ar draws y tair sir o £2.7 miliwn yn yr ail flwyddyn gan godi i £9.2m mewn pum mlynedd ac mae’n nodi cychwyn y diwylliant o newid sydd ei angen er mwyn rheoli categori ar waith. Bydd costau’r prosiect yn cael eu talu o Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol Llywodraeth Cymru. Gall uned caffael gref fynd i’r afael â nifer o faterion - arbed arian drwy ddefnyddio contractau mwy, cefnogi’r economi leol drwy ddefnyddio contractau llai a chynyddu rheolaeth leol i elwa cymunedau drwy ddefnyddio cymalau budd cymdeithasol. Yn 2012-13, llwyddodd y tri chyngor i gaffael £384m o nwyddau a gwasanaethau, rhai or meysydd ble bu llawer o wariant oedd £86m ar ofal cymdeithasol, £100m ar adeiladu a £26m ar gludiant cyhoeddus. Dyma oedd gan y Cynghorydd Billy Mullin Aelod Cabinet dros Reolaeth Corfforaethol i’w ddweud: “Dyma gydweithrediad cadarnhaol ac uchelgeisiol a fydd yn creu arbedion posibl o filiynau o bunnoedd i bob cyngor. Yn yr hinsawdd economaidd anodd hwn mae’n rhaid i ni ddarganfod rhagor o ffyrdd o leihau costau a thrwy gydweithio’n agos, bydd y tair uned yn rhoi mantais i’r cynghorau wrth brynu nwyddau a gwasanaethu a fydd yn y pendraw yn cynnig gwasanaethau gwell i bobl Sir y Fflint.” Bydd cyfnod nesaf y broses yn cael ei ystyried yn yr hydref.