Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Hyrwyddor Iaith Gymraeg

Published: 19/04/2018

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Strategaeth pum mlynedd ddrafft i Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg cyn ymgynghori’n ehangach a chymeradwyo’r broses ymgynghori pan fydd yn cyfarfod ar 24 Ebrill. Mae Safon y Gymraeg 145 yn ei gwneud yn ofynnol ir Cyngor baratoi Strategaeth Hyrwyddo pum mlynedd a’i chyhoeddi ar wefan y Cyngor. Mae’r Strategaeth angen cynnwys targed ar gyfer cynyddu neu gynnal y nifer o siaradwyr Cymraeg. Nod y Strategaeth ddrafft yw: “hybu, cefnogi a diogelu’r iaith Gymraeg er budd cenedlaethau presennol a’r dyfodol. Byddwn yn cefnogi ac yn cynyddu’r lefel bresennol o siaradwyr Cymraeg, o 13.2% (19,343 o bobl) yn y sir i 13.6% (20,000 o bobl) yn ystod y cyfnod hwn. Ein nod yn y tymor hirach, ar ôl 2021 yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg gan greu sir ddwyieithog lle mae’r Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd bob dydd.” Mae’r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg a bydd y Strategaeth hon yn cefnogi mentrau eraill sydd eisoes yn bodoli gan gynnwys: ? Cynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg y Cyngor sy’n anelu i gynyddu’r nifer o ddysgwyr a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. ? Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol “Mwy na Geiriau” a weithredir yn llwyddiannus o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. ? Strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Bydd Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg hefyd yn cyfrannu at Gynllun Lles y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg pum mlynedd hon. Mae gennym eisoes bolisi ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle i sicrhau ein bod yn codi proffil y Gymraeg er mwyn helpu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir a’r cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.” “Bydd gweithredu’r Strategaeth hon yn ein cefnogi i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog. Mae hefyd yn anfon neges glir, yn fewnol ac yn allanol, bod yr iaith Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi ac yn ased o fewn cyflogaeth.” Cynhelir y broses ymgynghori ar Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yn ystod Mai 2018 a bydd y Strategaeth derfynol yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddarach yn y flwyddyn.