Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun rhyddhad ardrethi Stryd Fawr

Published: 24/04/2018

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19, a fydd yn darparu rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol i fanwerthwyr stryd fawr Sir y Fflint dros y flwyddyn nesaf. I fanteisio ar y swm o gefnogaeth y gellir ei roi ac i sicrhau y caiff ei dargedu at yr ardaloedd a busnesau sydd âr angen mwyaf, bydd dwy haen o ryddhad ar gael. Bydd yr haen gyntaf o ryddhad yn gymwys i fanwerthwyr stryd fawr sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000, sydd naill ai eisoes yn cael rhyddhad ardrethi busnes bach (SBRR) neu ryddhad ardrethi trosiannol. Byddant yn cael gostyngiad o £250 yn eu bil ardrethi, neu os bydd eu bil yn llai na £250, bydd yn cael ei leihau i ddim. Bydd yr ail haen o ryddhad yn gymwys i fanwerthwyr stryd fawr â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000, a oedd yn cael cynnydd yn eu rhwymedigaeth ardrethi o 1 Ebrill 2017 ac nad ydynt yn cael SBRR neu ryddhad trosiannol. Bydd talwyr yr ardrethi hyn yn cael gostyngiad yn eu bil ardrethi o £500 neu gyfanswm y rhwymedigaeth sy’n weddill, os yw’n llai na £500. . Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn falch iawn o allu rhoi’r gefnogaeth hon i fodloni anghenion y siopau lleol, bwytai, caffis ac eiddo trwyddedig. Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i gynnig yr arbedion hyn, sy’n helpu i hybu ein heconomi leol. “Yn seiliedig ar y rhai a fanteisiodd ar y cynllun yn ystod 2017/18, rydym yn rhagweld y bydd tua 150 o fusnesau’n gymwys, naill ai ar gyfer rhyddhad ardrethi haen 1 neu 2, drwy grant wedi’i amcangyfrif, ac wedi’i ad-dalu’n llawn, o £45k.”