Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Ffair Swyddi

Published: 23/04/2018

Mynychodd dros 500 o bobl ddigwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Dyma’r digwyddiad cyntaf i’w redeg gan y tîm Cymunedau ar Waith a Mwy sydd newydd ei sefydlu. Mae’r tîm wedi tyfu a datblygu or tîm Cymunedau Yn Gyntaf gwreiddiol, fu’n gyfrifol am ddiogelu nifer o gyfleoedd swyddi a hyfforddi i bobl leol drwy ei gyfnod o 15 mlynedd mewn bodolaeth. Roedd y digwyddiad hwn wedi ei anelu at oedolion a phobl ifanc syn chwilio am waith ac roedd yn ddigwyddiad ar y cyd llwyddiannus arall rhwng Cymunedau ar Waith a Mwy, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru. Cefnogwyd y digwyddiad gan 20 darparwr a 52 cyflogwr, gyda dros 500 o swyddi gwag ar gael mewn amrywiaeth o sectorau. Mae adborth darparwyr (sefydliadau addysg, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli ac ati) yn dangos bod safon yr ymgeiswyr a lefel yr ymgysylltu yn uwch na’r llynedd, gyda mwy o gyfleoedd i gael sgyrsiau un-i-un. Ac oherwydd safon uchel y mynychwyr, roedd ar rai cyflogwyr eisiau cyfweld â nhw yn y fan a’r lle. Yn ogystal â gwneud cais am swyddi gwag roedd ceiswyr gwaith yn gallu cwrdd â chyflogwyr, darparwyr addysg a sefydliadau cefnogi eraill a gofyn cwestiynau iddynt. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Unwaith eto, roedd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn llwyddiant ysgubol ac yn rhoi cyfle i’r mynychwyr gwrdd â chyflogwyr, sefydliadau addysg ac asiantaethau cymorth. Mae cyflogwyr wedi dweud wrthym ni fod y digwyddiad wedi bod yn brofiad cadarnhaol iddyn nhw. Mae’n hanfodol bod busnesau yn denu ac yn recriwtio’r bobl iawn ar gyfer eu swyddi. Mae digwyddiadau fel yr un yma yn gyfle iddyn nhw wneud hynny.”