Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gynnau BB ffug
Published: 17/07/2014
Mae Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint yn rhybuddio rhieni bod gynnau BB ffug
yn cael eu dosbarthu fel gwobrau mewn ffeiriau a digwyddiadau ar hyd a lled y
sir i blant sydd mor ifanc â 13 oed.
Er bod y marc “AGE: 18 &UP” ar y gynnau BB, os yw plentyn yn ennill gwobr caiff
ddewis y gwn. Daw bwledi 6mm gyda’r gynnau ac os na chânt eu defnyddio’n
ofalus, gallant achosi niwed difrifol.
Mae Safonau Masnach yn cymryd camau i gysylltu â phob arcêd diddanu yn yr ardal
i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r eitemau hyn ac
maent yn ymchwilio i gwyn gan aelod o’r cyhoedd.
Mae’n bosibl bod cyflenwi’r gynnau ffug hyn yn drosedd o dan ddeddfwriaeth
Diogelu Defnyddwyr ac Arfau Tân.
Mae Safonau Masnach wedi cynghori rhieni i oruchwylio’u plant mewn ffeiriau a
digwyddiadau dros yr haf i sicrhau na chaiff gynnau BB ffug eu cyflenwi i neb o
dan 18 oed.
Pennawd: Gwn BB ffug a’r deunydd pecynnu.