Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Melrose, Shotton

Published: 26/04/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau a’i raglen o adeiladu cartrefi Cyngor newydd i breswylwyr lleol. Yn ddiweddar, gwnaeth yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Bernie Attridge, gyfarfod y cynghorydd lleol, y Cynghorydd Ron Davies yn safle adeiladu naw cartref Cyngor newydd ar safle hen Ganolfan Melrose yn Shotton fel rhan o Raglen Tai ac Adnewyddu Strategol (SHARP) blaenllaw y Cyngor). Mae SHARP eisoes wedi darparu cartrefi Cyngor newydd yng Nghei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Choed-Llai. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae’r ailddatblygiad hwn yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor. Roedd yr adeilad wedi dod yn darged ar gyfer fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ôl iddo gau, felly cafodd ei ddymchwel y llynedd. Rydym yn ailddatblygu’r safle nawr drwy adeiladu pum ty 2 ystafell wely a phedwar rhandy 1 a 2 ystafell wely. “Rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn parhau i adeiladu cartrefi newydd o safon i’n preswylwyr.” Dywedodd Cynghorydd Ron Davies: “Rwyf wrth fy modd bod y datblygiad hwn yn digwydd yn fy ward. Bydd hyn yn dod â gwelliannau da i’r ardal ochr yn ochr â’r holl welliannau tai Cyngor sy’n digwydd ar hyn o bryd. Rhaid i mi ddweud bod ein contractwyr yn gwneud gwaith gwych.” Mae’r cartrefi Cyngor newydd yn cael eu hadeiladu gan bartner y Cyngor, Wates Construction North.