Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad o’r Rhwydwaith Bysiau

Published: 24/04/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal adolygiad o wasanaethau bws â chymhorthdal y Sir dros y misoedd nesaf i sefydlu rhwydwaith cludiant cynaliadwy, teg ac effeithiol ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae mwy na 55 o lwybrau bws yn gweithredu ar draws Sir y Fflint bob dydd. Mae’r teithiau hyn yn cael eu gweithredu gan gwmnïau bws preifat, sydd naill ai’n rhedeg gwasanaethau bws masnachol neu lwybrau a gaiff gymhorthdal gan Gyngor Sir y Fflint. Mae llwybrau masnachol wedi’u gweithredu gan gwmnïau bws preifat yn unig heb unrhyw fewnbwn gan yr awdurdod lleol o ran cyfeiriad llwybrau na chefnogaeth ariannol, a llwybrau â chymhorthdal yw’r rhai a gaiff eu hariannu’n llwyr, neu’n rhannol, gan y Cyngor. Mae tua 60% o wasanaethau bws yn Sir y Fflint yn cael eu gweithredu’n fasnachol ac mae 40% â chymhorthdal. Mae’r cymhorthdal hwn yn dod i gyfanswm o £1,068,352 y flwyddyn (gan gynnwys Cyllid Grant Cynhaliaeth Gwasanaeth Bws Lywodraeth Cymru). Nid oes dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau bws lleol, na chyllido unrhyw fath o gludiant cyhoeddus, ond mae dyletswydd statudol ar y Cyngor dan Ddeddf Cludiant 1985 a 2000 i adolygu’r rhwydwaith bysiau ac i ymyrryd lle mae’n teimlo ei bod yn briodol. Yn hanesyddol, mae’r llwybrau bws â chymhorthdal yn Sir y Fflint wedi’u sefydlu fesul cam, weithiau heb gyfiawnhad real nac achos busnes i gefnogi. Felly mae angen cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r rhwydwaith a rhoi ystyriaeth i’r rhwydwaith masnachol a’r rhwydwaith a gefnogir fel cyfanrwydd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu patrymau teithio presennol teithwyr a’i fod yn diwallu’r galw sy’n datblygu ar gyfer cludiant i ddatblygiadau newydd. Bydd yr adolygiad yn ystyried y rhwydwaith bysiau presennol a gefnogir a sut i flaenoriaethu cyllid cyhoeddus sy’n gynyddol gyfyngedig yn y ffordd orau lle mae mwyaf o angen a sicrhau bod darpariaeth gwasanaeth yn gyson, teg a chyfiawn ar draws y Sir. Felly, bydd yr adolygiad yn cynnwys ardaloedd o’r Sir nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan gludiant cyhoeddus ar hyn o bryd a rhoi ystyriaeth i ddarpariaeth fasnachol bresennol gwasanaethau i ganolfannau allweddol a nodi unrhyw fylchau lle mae angen presennol neu angen yn y dyfodol. Bydd cyfnod ymgynghori chwe wythnos yn dechrau ar 23 Ebrill 2018 a fydd yn gofyn am farn aelodau’r cyhoedd a budd-deiliaid allweddol o ran y datrysiad cludiant mwyaf priodol yn eu hardal leol. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio nodi patrymau teithio presennol, gan gynnwys lle a phryd mae angen cludiant, pwrpas teithio a pha un o’r opsiynau arfaethedig fydd yn darparu datrysiad cludiant cynaliadwy yn y dyfodol. I gynorthwyo gyda hyn, mae’r Sir wedi’i rhannu’n bedair ardal ddaearyddol i flaenoriaethu a chanolbwyntio’r angen cludiant i gymunedau unigol. Yn yr ardaloedd hyn, mae pedwar opsiwn yn cael eu cyflwyno i’w hystyried. Y rhain yw 1) Rhoi’r gorau i roi cymhorthdal i lwybrau bysiau yn llwyr 2) Parhau gyda’r llwybrau â chymhorthdal presennol yn unig 3) Cefnogi llwybrau bysiau ar y rhwydwaith bysiau craidd a chyflwyno Trefniadau Teithio Lleol mewn ardaloedd oddi ar y rhwydwaith craidd (fel cymunedau gwledig) 4) Cefnogi llwybrau bysau ar y rhwydwaith bysiau craidd a chyflwyno gwasanaeth ‘galw a theithio’ sy’n ymateb i alw ar gyfer ardaloedd oddi ar y rhwydwaith craidd (fel cymunedau gwledig). Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Rwy’n deall pwysigrwydd cludiant bws; i lawer o bobl mae’n hanfodol ac rwyn ymrwymedig i wneud y gorau y gallwn yn Sir y Fflint i ddarparu gwasanaeth bysiau effeithiol, fforddiadwy a chynaliadwy. Rwy’n annog cymaint o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i sicrhau bod barn y cyhoedd yn helpu i lunio dyfodol cludiant yn ein cymunedau. Bydd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned lle gall pobl siarad â swyddogion yr awdurdod i gael rhagor o wybodaeth a bydd swyddogion yn teithio ar fysiau i siarad â theithwyr i ofyn am eu barn. Os oes gennych grwp cymdeithasol neu gymdeithas a fyddai’n cael budd o gyfarfod am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch â swyddogion Strydwedd.” Mae manylion am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Sir y Fflint neu gan ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a bydd 5 sesiwn ymgysylltu â’r cyhoedd yn y Sir i breswylwyr siarad â swyddog o’r awdurdod i gael rhagor o wybodaeth. Canolfan Gymunedol Hawksbury, Bwcle - 26 Ebrill 2018 Neuadd y Dref yr Wyddgrug – 27 Ebrill 2018 Swyddfeydd Cyngor Tref Treffynnon – 2 Mai 2018 Canolfan Ddinesig Cei Connah – 3 Mai 2018 Neuadd y Dref y Fflint – 10 Mai 2018 I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â streetscene@flintshire.gov.uk neu 01352 701234.