Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Disgyblion yn cymryd rhan mewn seremoni i dorrir dywarchen

Published: 01/05/2018

Roedd disgyblion yn Ysgol Penyffordd wedi eu cyffroi i fod yn rhan o’r seremoni swyddogol i dorri’r dywarchen a gynhaliwyd yn ddiweddar ar safle eu hysgol newydd. Penododd Cyngor Sir y Fflint y cwmni lleol Wynne Construction, sydd wedi eu lleoli ym Modelwyddan i adeiladu cyfleuster ysgol gynradd yr 21ain Ganrif newydd gwerth miliynau o bunnoedd. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint fel rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Bydd yr ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3-11 oed yn uno ar safle Abbotts Lane, yn ogystal â dymchwel yr ysgol bresennol i fabanod ac adeiladu maes parcio gwell a mwy ar gyfer staff ac ymwelwyr a chreu ardal ollwng benodol i rieni a gofalwyr. Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn cynnwys neuadd a stiwdio ac ystafelloedd dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2. Bydd y cae a’r ardaloedd chwaraeon yn cael eu cadw. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint. Bydd y buddsoddiad o bron i £7 miliwn yn darparu cyfleuster modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach a bydd yn cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.” Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg Kirsty Williams: “Mae’n wych i weld fod gwaith yn dechrau rwan ar yr Ysgol Penyffordd newydd. Bydd yr ysgol newydd yn cynnig gwell cyfleusterau i staff, disgyblion a’r gymuned ehangach. Dyma un o’r prosiectau diweddaraf i ddechrau fel rhan on Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd yn ei flaen.” Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: “Rydym wrth ein boddau i gael ein dewis fel y contractwr ar gyfer y prosiect newydd cyffrous hwn gyda Chyngor Sir y Fflint. Gan fod y disgyblion wedi ein helpu i ddechrau’r prosiect, edrychwn ymlaen at drefnu ymweliadau safle yn ystod y gwaith adeiladu, er mwyn iddyn nhw weld o’r tu mewn sut mae eu hysgol yn tyfu. Byddwn hefyd yn darparu cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol, i wneud yn siwr fod buddion y buddsoddiad mawr hwn yn cael eu gwasgaru mor eang a phosibl.“ Mae’r prosiect hwn yn dilyn gorffen Campws Dysgu Treffynnon a Choleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn llwyddiannus, ac mae disgwyl i’r gwelliannau moderneiddio presennol sy’n digwydd yn Ysgol Uwchradd Cei Connah gael eu cwblhau yn ystod haf 2019.