Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau Maes Parcio

Published: 27/04/2018

Fel rhan o waith gwella tair cyngor yn Sir y Fflint, mae’r diweddaraf mewn cyfres o welliannau meysydd parcio wedi’i gwblhau ym Magillt. Er nad oedd yn ofynnol yn gyfreithiol i wneud y gwaith hwn, roedd y Cyngor wedi gweld cyfle i wella’r amgylchedd, gwella diogelwch trigolion ac ychwanegu at ansawdd bywyd trigolion. Roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Bernie Attridge wedi ymweld â Bron Haul, Bagillt yn ddiweddar gyda’r aelod lleol, y Cynghorydd Mike Reece i weld y gwaith dros ei hun. Dywedodd: “Sir y Fflint oedd y Cyngor cyntaf i ddechrau adeiladu tai cyngor mewn cenhedlaeth sy’n dangos pa mor ymroddedig ydyn ni i ddarparu tai o ansawdd i’n trigolion. Rydym hefyd yn parhau ein rhaglen o welliannau i eiddo presennol y cyngor drwy ddiweddaru eu ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri a nodweddion allanol eraill. Yn ychwanegol at hynny, rydym yn gwneud gwaith gwella allanol arall sy’n cynnwys creu cyfleusterau meysydd parcio addas i’n trigolion.” Dywedodd y Cynghorydd Mike Reece: “Mae’r gwelliant hwn i’r maes parcio yn wych i’r ardal a’r trigolion lleol. Hoffwn ddiolch ir tîm tai am wneud gwaith gwerth chweil! Daw’r gwelliannau hyn ym Magillt yn dilyn cynlluniau eraill ar draws y sir yng nghanolfan Llys Tywysog Cymru ym Mwcle, yn y Strand, Treffynnon a Heron Close ym Mrychdyn sydd wedi derbyn croeso mawr gan drigolion.