Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi mwy o raglenni gwella priffyrdd

Published: 01/05/2018

Ar ôl rhyddhau rhaglen ail-wynebu £1miliwn+ yr wythnos ddiwethaf, mae dwy raglen arall ar gyfer gwella ffyrdd wedi eu cadarnhau. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau gweithio ar raglen Wyneb Priffyrdd yn Mehefin/Gorffennaf fydd yn helpu i wella cyflwr ffyrdd mwyaf gwledig y Sir. Bydd y rhaglen sy’n werth tua £0.35 miliwn yn gweld gwelliant i bron 20 o ffyrdd gwledig yn bennaf ar draws Sir y Fflint. Bydd rhaglen o drwsio cerbytffyrdd hefyd yn dechrau cyn y gwaith trin wyneb ffyrdd yn Mehefin. Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu cynnal tri chynllun mawr gwella priffyrdd ar rai o’r ffyrdd prysuraf yn y Sir, er mwyn gwella’r ffyrdd yn dilyn y difrod a achoswyd gan dywydd gwael y gaeaf. Bydd y cynlluniau prif ffyrdd hyn yn cynnwys ailadeiladu wyneb y ffordd, trwsio cyrbau a throedffyrdd a newid y marciau ffordd presennol. Bydd goleuadau stryd hefyd yn cael eu diweddaru ar y ffyrdd os bydd angen. Mae’r gwaith sy’n werth £0.5 miliwn i gyd wedi’i drefnu ar gyfer y lleoliadau canlynol: A 549 Gallt Wylfa yn Mynydd Isa B 5129 Ffordd Caer yn Sandycroft A 548 Ffordd Caer yn y Fflint Mae’r ddau brosiect yma yn cael ei hariannu o gyllideb cynnal a chadw priffyrdd y Cyngor ei hun gyda chefnogaeth arian grant gan Lywodraeth Cymru sy’n dod â chyfanswm lefel buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd lleol yn agos at £2 filiwn yn y flwyddyn ariannol bresennol. Bydd prosiect terfynol i wneud gwaith atgyweirio priffyrdd y rhwydwaith ffyrdd gwledig yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau i ddod yn dilyn archwiliadau a gynhelir i asesu cyflwr holl ffyrdd gan swyddogion yn Sir y Fflint. Mae’r archwiliadau hyn wedi sicrhau bod y ffyrdd sydd angen eu trwsio fwyaf yn cael y sylw maent ei angen. Bydd manylion yr holl raglenni ar gael ar wefan y Cyngor ddydd Llun 30 Ebrill 2018 a bwriedir i’r holl waith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2018. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi dau brosiect atgyweirio priffyrdd arall fydd o fudd i’r holl gymunedau yn y Sir. Bydd y prosiectau’n helpu i wella rhai o goridorau ffyrdd o bwys strategol sy’n allweddol i fywydau bob dydd llawer o drigolion a helpu i wella rhai o’n ffyrdd a lonydd gwledig sydd yr un mor bwysig i’r trigolion hynny sy’n byw yn yr ardaloedd hyn. Mae pedwar criw yn parhau i lenwi tyllau yn y ffyrdd ledled y Sir.”