Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Newydd i Sir y Fflint

Published: 03/05/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod y gwaith ar Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd yn Rockcliffe yn dechrau. Bydd y safle newydd yn dilyn dyluniad sydd wedii rannun sawl lefel, a fydd yn cael gwared â grisiau a phlatfformau i gael mynediad at sawl man ailgylchu. Bydd y rhaglen yn cynnwys cyffordd diwygiedig gydag arwyddion ar yr A548 hefyd i wella mynediad ir safle arfaethedig. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Bydd y datblygiad newydd yn Rockcliffe yn cwblhau rhaglen uwchraddio i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Ty presennol a’u trawsnewid yn unol â safonau modern. Bydd y datblygiad newydd yn gwella ein ffigurau ailgylchu ymhellach, gyda’r fantais o hygyrchedd i’n defnyddwyr.”