Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trosglwyddo asedau cymunedol

Published: 14/04/2014

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (15 Ebrill) bydd Cabinet y Cyngor yn clywed am ddau o adeiladau’r awdurdod a drosglwyddwyd yn ddiweddar o Gyngor Sir y Fflint i grwpiau lleol eu rhedeg ar gyfer y gymuned. Bydd prydles 25 mlynedd ffurfiol Neuadd Bentref Carmel yn cael ei throsglwyddo i Bwyllgor y Neuadd drwy broses o drosglwyddo ased. Ar ôl i’r Cyngor dalu am y gwaith trwsio cychwynnol, y grwp cymuned fydd wedyn yn gyfrifol am drwsio ac yswirio’r neuadd, a chymeradwywyd hyn ym mis Chwefror. Cytunwyd i drosglwyddo rhydd-ddaliad Pwll Nofio Bwcle i ymddiriedolaeth elusennol, sef The Old Buckley Baths Community Hall Ltd, ar y cyd a Chyngor Tref Bwcle fis Hydref diwethaf. Gall y Cyngor ddewis trosglwyddo adeiladau a thir i’r gymuned neu i grwpiau elusennol er mwyn iddyn nhw eu rhedeg er budd y gymuned, a chymeradwywyd y ddau drosglwyddiad uchod gan Grwp Rheoli Asedau Corfforaethol y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae trosglwyddo asedau cymunedol yn ffordd o gadw adeiladau ar agor er budd pobl leol pan fyddant mewn perygl o gau oherwydd prinder arian. Rydym yn falch iawn bod y ddau grwp cymuned yn awyddus i gymryd cyfrifoldeb dros y pwll nofio a’r neuadd bentref ac y bydd y cyhoedd, felly, yn parhau i ddefnyddio’r adeiladau hyn. “Mae’r Cyngor yn gefnogol iawn i grwpiau elusennol a chymunedol a mentrau cymdeithasol sy’n rhedeg busnesau er budd y gymuned ac mae’r ddau adeilad hanesyddol hyn yn esiampl wych o gymuned yn cydweithio i helpu eraill i fwynhau eu hunain am flynyddoedd eto.”