Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Gynradd GWepra

Published: 17/07/2014

Mae disgyblion ac athrawon Ysgol Gynradd Gwepre yng Nghei Connah wedi bod yn ymweld â Neuadd y Sir, yr Wyddgrug. Cafodd y disgyblion daith o amgylch Siambr y Cyngor ar 8 Gorffennaf a chlywsant sut y mae’r Cyngor yn gweithio. Cawsant gyfle i gyfarfod ag Is-gadeirydd y Cynghorydd, y Cynghorydd Ray Hughes, a chael tystysgrifau i nodi’u hymweliad. Ymunodd llywodraethwyr o blith yr athrawon a’r rhieni â’r ymweliad hefyd. Pennawd: athrawon a phlant o Ysgol Gynradd Gwepra gydag Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes.