Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pythefnos Gofal Maeth 2018

Published: 09/05/2018

Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch blynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu ac i ddangos sut mae gofal maeth yn newid bywydau. Dyma’r ymgyrch recriwtio gofal maeth mwyaf yn y DU. Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth 2018 o 14 i 27 Mai. Pythefnos Gofal Maeth yw’r ymgyrch fwyaf yn y DU i godi ymwybyddiaeth o ofal maeth ac mae’n cael ei drefnu gan yr elusen faethu flaenllaw, Y Rhwydwaith Maethu. Mae’r ymgyrch yn dangos ymrwymiad, brwdfrydedd ac ymroddiad gofalwyr maeth. Mae angen 7,000 o deuluoedd maethu newydd i ofalu am amryw o blant dros y 12 mis nesaf yn unig ac mae’r angen mwyaf am ofalwyr maeth ar gyfer plant hyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant anabl. Mae gwasanaeth maethu Cyngor Sir y Fflint yn ymuno’r ymgyrch eleni i dynnu sylw at yr angen i ofalwyr maeth i ofalu am frodyr a chwiorydd lleol. Dros Ogledd Cymru yn 2016/17 roedd 86 grwpiau o frodyr a chwiorydd angen gofal maeth. Roedd mwyafrif or rhain yn grwpiau o 2 yn frodyr neu chwiorydd, ond gyda 4 grwpiau mawr o 5 o blant mae angen mwy o ofalwyr maeth gyda 2 ystafell wely sbâr. Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: Roedd wythdeg grwpiau o frodyr a chwiorydd angen gofal maeth yn Sir y Fflint llynedd (2017/18). Yn bennaf roedd y rhain yn grwpiau o ddau a oedd yn gallu aros gydai gilydd. Gall brodyr a chwiorydd rannu ystafelloedd gwely yn dibynnu ar eu hoedran, ond rydym yn chwilio am bobl gyda chartref gwag ac yn gallu cynnig lle, amser a chariad ir plant hynny. Mae plant hyn yn aml wedi treulio eu bywydau yn edrych ar ôl eu brodyr a’u chwiorydd iau; mae bod mewn gofal maeth yn gadael iddyn nhw fod yn blant unwaith eto. Mae Kim wedi bod yn ofalwr maeth am 18 mlynedd, ei phrofiad maeth cyntaf gyda brawd a chwaer. Ers hynny mae hi’n cofio maethu o leiaf 3 neu fwy o grwpiau o frodyr a chwiorydd: “Cyrhaeddodd dau frawd ifanc ar fy stepen drws. Pan wnaethon nhw gyrraedd roedd yr hynaf yn gafael yn dynn am ysgwydd ei frawd bach ac yn dweud wrtho fod popeth yn mynd i fod yn iawn. Mae maethu yn debyg i wneud jig-so...heb y llun. Mae cael brawd a chwaer yn helpu i roir darnau gydai gilydd ac i lenwir bylchau. Rydych angen amynedd ac amser. Yn aml byddai’r brawd neu chwaer hyn yn cofio pethau nad oedd yr ieuengaf yn ei gofio. Weithiau byddai’r plant yn rhan o deulu llawer mwy ac yn aml byddem yn eu cyfarfod yn y parc. Roedd 5 o blant mewn un teulu yn agos iawn mewn oed. Dwi wrth fy modd gyda’r hyn a wnaf. Hyd yn oed ar ôl 18 o flynyddoedd dwi dal yn cael boddhad mawr ohono, dwi wrth fy modd gyda her.” Mae Donna wedi bod yn maethu ers 2 flynedd. “Wrth ystyried maethu am y tro cyntaf roeddem yn meddwl maethu un plentyn 0-5 oed. Yna dyma nin mynd ar gwrs 3 diwrnod ac ynan penderfynu y gallwn helpu unrhyw blant, dim ots beth yw eu hoedran. Gofynnwyd a oedden nin gallu cymryd brawd a chwaer. Yn meddwl am blant ein hunain roedd hin amhosib meddwl y gallwn ni wahanu brawd a chwaer. Yr oll oedd angen ei wneud oedd cymryd diddordeb, gwrando, dangos iddyn nhw lwybrau gwahanol, dewisiadau ac i roi cyfleoedd iddyn nhw sefyll allan. Rwan maen nhw’n cymryd rhan mewn chwaraeon, cerddoriaeth ac mae eu hyder yn amlwg i bawb. Dwi mor falch ou cyflawniadau. Dwi ddim yn siwr y byddan nhw’n cyflawni neun datblygu fel hyn pe baent wedi eu gwahanu. Dywedodd person ifanc mewn gofal maeth yn Sir y Fflint: “Y peth gorau am fod mewn gofal maeth yw gwybod bod fy chwaer yn ddiogel, yn cael ei charu a’i gofalu amdani. Mae Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yn cynnal noson wybodaeth ar ddydd Iau, 24 Mai am 7pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i unrhyw un sydd â diddordeb canfod mwy am fod yn ofalwr maeth gyda’r Cyngor lleol. Ffoniwch 01352 701965 neu ewch i www.flintshirefostering.org.uk.