Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorsaf Parkway

Published: 14/05/2018

Parkway yw’r orsaf reilffordd newydd arfaethedig yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy. Bydd yr orsaf wedi ei lleoli ar y Lein rhwng Wrecsam a Bidston, gyda mynediad uniongyrchol i’r parc. Bydd gan yr orsaf gysylltiadau â gwasanaeth gwennol a fydd yn cymudo o gwmpas y pedair ardal a datblygiad arfaethedig Porth Y Gogledd. Bu Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir Y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas ar ymweliad diweddar â’r safle gyda swyddogion Gwasanaethau Stryd sydd wedi gweithio’n galed ar y cynlluniau a’r cysyniad metro, ac sydd bellach yn rheoli’r prosiect drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. “Mae’n wych bod y rheilffordd i’r parc yn mynd i gael ei defnyddio. Bydd yr orsaf hon o fudd i lawer o bobl sydd eisoes yn gweithio yn yr ardal a bydd o bosib yn cynnig cyfleoedd i fwy o bobl allu cyrraedd gwaith yma o rannau eraill o Sir y Fflint ar tu hwnt.