Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Published: 17/05/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried ymateb i Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol pan mae’n cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis. Mae’r galw am iechyd a gofal cymdeithasol wedi cynyddu’n ddramatig dros yr 20 mlynedd diwethaf, gydag anghenion newidiol, disgwyliadau cynyddol a ffurfiau newydd o driniaeth a gofal yn ymestyn y ddarpariaeth. Mae hyn wedi creu her sylweddol i wasanaethau cyhoeddus a chafodd yr Adolygiad Seneddol hwn o Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i nodi sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ragweld a delio gyda’r galwadau newydd a wynebir ganddynt. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2018 gyda deng awgrym i Lywodraeth Cymru, sef: 1. Un system ddi-dor i Gymru – gofal wedi’i drefnu o amgylch yr unigolyn a theulu’r unigolyn, mor agos â phosib at y cartref 2. Y Nod Pedwarplyg i Bawb – ategu’r weledigaeth ar gyfer “un System” gyda phedwar nod: cydweithio i gyflawni canlyniadau clir, gwell iechyd a llesiant, gweithlu sy’n derbyn gofal a gwerth gwell am arian. 3. Modelau gofal di-dor newydd a dewr – egwyddorion cenedlaethol, darparu’n lleol 4. Rhoi’r rheolaeth yn nwylo’r bobl - cryfhau ymgysylltiad unigolion a’r gymuned 5. Lle gwych i weithio ynddo – cysoni’r gweithlu ar frys 6. System Iechyd a Gofal sy’n dysgu trwy’r amser 7. Defnyddio arloesed, a chyflymu datblygiadau mewn technoleg a seilwaith 8. Cysoni dyluniad y system i gyflawni canlyniadau – dylunio’r system yn well i sicrhau cynnydd cyflymach 9. Y gallu i drawsnewid, arweinyddiaeth ddeinamig, cydweithredu digynsail - cynyddu’r gallu i lywio trawsnewid ar lefel genedlaethol 10. Atebolrwydd, cynnydd a chyflymder – cyhoeddi cynnydd yn erbyn y weledigaeth Daeth i’r casgliad bod ar Gymru angen system iechyd a gofal gwahanol, ac na ddylai unrhyw un danamcanu maint yr her sydd o’n blaenau. Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn croesawu’r Adolygiad Seneddol yma ar gefnogaeth y mae wedii ddarparu o ran ein gweledigaeth a chyfeiriad strategol. Mae’r argymhellion yn yr Adolygiad yn cadarnhau ein cyfeiriad ac mae wedi rhoi hyder o’r newydd i ni o ran ein cynlluniau at y dyfodol”. Mae Cyngor Sir y Fflint yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC), ac fel aelod ohono, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn iddo gyflwyno ymateb yn gosod blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth ac i nodi cryfderau o ran bwrw ymlaen â modelau di-dor o iechyd, gofal a lles. Meddai’r Cynghorydd Jones: “Er mwyn paratoi’r ymateb hwn cynhaliodd BPRhGC gyfres o weithdai cynllunio, ac er bod rhai enghreifftiau ardderchog o arfer da wedi cael eu nodi, gan gynnwys yr estyniad arfaethedig ar Gartref Preswyl Marleyfield House yn Sir y Fflint, byddem yn cytuno gydar Adolygiad Seneddol bod cyflymder y newid yn araf. “Er mwyn cyflymu’r broses, mae BPRhGC wedi cyflwyno awgrymiadau rydym yn gobeithio eu trafod gyda’r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol pan fydd yn bresennol yng nghyfarfod BPRHGC yn fuan mis Gorffennaf.”